Mwy o Newyddion
Rhaid cael gwared ar ‘Lockstep’ a datganoli trethi teithwyr awyr
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad y Mesur Cymru drwy addo gosod gwelliannau a fyddai’n cynnal cyfanrwydd argymhellion y Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau pellach i Gymru.
Mynegodd Hywel Williams AS¸ a fu’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig fu’n craffu Mesur Drafft Cymru, siom fod Llywodraeth y DU wedi dewis a dethol rhai o argymhellion Silk ac y byddai ei blaid yn ceisio gwneud yn iawn am hynny fel y gellir sicrhau’r budd mwyaf posib i’r economi Gymreig yn sgil trosglwyddo’r pwerau ariannol hyn.
Ychwanegodd Mr Williams y byddai unrhyw bleidleisiau ar y gwelliannau hyn “yn brawf o flaenoriaethau Llafur” o ystyried y rhaniad barn amlwg rhwng aelodau’r blaid yn Llundain a Chaerdydd ar y mater o roi pwerau pellach i Gymru.
Wrth siarad yn fuan ar ol cyhoeddiad y Mesur, dywedodd Hywel Williams AS: “Yn gyson ac unedig, mae Plaid Cymru wedi dadlau’r achos o blaid trosglwyddo pwerau creu-swyddi a hybu’r economi o San Steffan i Gymru.
“Rydym felly’n croesawu cyhoeddi Mesur Cymru a fydd yn rhoi rhai o argymhellion Comisiwn traws-bleidiol Silk ar waith.
“Serch hyn, ein hamcan o’r cychwyn oedd i gynnal argymhellion gwreiddiol y Comisiwn yn eu cyfanrwydd ac mae’n siomedig gweld eu bod wedi cael eu dewis a dethol fel hyn.
“Byddwn yn ceisio gwneud yn iawn am hyn drwy osod gwelliannau i Fesur Cymru gyda’r bwriad o gael gwared ar y ‘lockstep’ – rhwystr fydd yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i amrywio cyfraddau treth incwm. Yn ogystal â hyn byddwn yn ceisio newid y Mesur er mwyn datganoli Treth Teithwyr Awyr i Gymru, fel y nododd adroddiad y Comisiwn Silk.
“Ar ôl honni mai “trap Toriaidd” yw’r ‘lockstep’ a phrynu maes awyr Cardiff, byddai’n destun cywilydd mawr i Brif Weinidog Cymru – aelod mwyaf pwerus y blaid Lafur yn y DU – pe byddai’n methu perswadio ASau Llafur yn San Steffan i gefnogi’r gwelliannau hyn sydd mor allweddol i’r economi Gymreig.
“Bydd Mesur Cymru felly’n brawf o flaenoriaethau Llafur.
“Ar y cyfan, mae’r Mesur yn gyfle coll am nad yw’n cynnwys argymhellion ail adroddiad y Comisiwn Silk oedd yn cynnig trosglwyddo pwerau ehangach i Gymru megis ynni, trafnidiaeth a heddlua. Mae hen ddigon o amser yn y calendr seneddol o ystyried fod y Glymblaid yn cael trafferth dod o hyd i ddeddfwriaeth ystyrlon. Gallem fod wedi gweld Mesur Cymru llawn a chynhwysfawr.”