Mwy o Newyddion
Croesawu targedau ‘uchelgeisiol’ ar gyfer datganoli trethi
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod am ddatganoli ardrethi annomestig yn llawn i Gymru o fis Ebrill 2015. Bydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi hefyd yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018.
Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyn mewn Papur Gorchymyn sy’n cyd-fynd â Bil Cymru, a gyhoeddwyd heddiw hefyd.
Dywedodd Jane Hutt: “Rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau adeiladol â Thrysorlys y Deyrnas Unedig yn ystod y misoedd diwethaf, ynglŷn â’n setliad ariannol newydd.
"Rwy’n falch ein bod wedi cytuno i bennu dyddiadau targed uchelgeisiol ar gyfer datganoli trethi.
"Dechrau’r broses fydd datganoli trethi annomestig yn llawn yng Nghymru o fis Ebrill 2015. Bydd hyn yn golygu bod Cymru yn dilyn yr un drefn â’r Alban, gan sicrhau ein bod yn manteisio ar y twf yn y sylfaen drethu hon dros amser.
"Bydd hefyd yn ei gwneud hi’n haws creu polisi ar gyfer ardrethi busnes sy’n bodloni disgwyliadau dinasyddion a busnesau Cymru.
“Bydd datganoli’r dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn llawn yn cymryd rhagor o amser, gan fod rhaid i Fil Cymru gwblhau ei daith drwy Senedd y Deyrnas Unedig ar gyfer hynny.
"Bydd rhaid i’r Cynulliad ddeddfu i gyflwyno trethi i gymryd eu lle yng Nghymru hefyd. Daw’r rhain i rym pam fydd trethi’r Deyrnas Unedig yn cael eu ‘diffodd’ yng Nghymru.
"Mae cyflwyno trethi newydd yng Nghymru erbyn mis Ebrill 2018 yn uchelgeisiol, ond yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd. Byddaf yn parhau i ddatblygu fy nghynlluniau i sicrhau bod y trethi hyn yn symlach ac yn decach, a’u bod yn cefnogi twf a swyddi.”
Mae Bil Cymru a’r Papur Gorchymyn yn cyflwyno sawl gwelliant i’r Bil drafft a gyhoeddwyd cyn y Nadolig, gan gynnwys:
· Pwerau newydd i’r Cynulliad bennu ei weithdrefnau cyllidebol ei hun, fel yr argymhellodd Comisiwn Silk;
· Ymrwymiad i adolygu’r terfyn benthyca uchaf ar gyfer buddsoddi cyfalaf – sef £500 miliwn ar hyn o bryd – bob tro y bydd y DU yn cynnal Adolygiad o Wariant, ac ystyried effaith chwyddiant wrth adolygu’r terfyn uchaf;
· Awgrym y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried datganoli pwerau i fenthyca drwy gyhoeddi bondiau, fel y caniatawyd yn yr Alban yn ddiweddar;
· Creu Cyd-bwyllgor y Trysorlys, sef fforwm newydd rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y Deyrnas Unedig ar gyfer trafod materion yn ymwneud â threthi.
Ychwanegodd Jane Hutt: “Rwy’n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i fwrw ymlaen i ddeddfu er mwyn darparu pwerau a chyfrifoldebau ariannol newydd i Gymru.
"Rydym wedi sicrhau gwelliannau pwysig i’r Bil drafft drwy gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Edrychaf ymlaen at gydweithio â Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn ystod y misoedd nesaf i sefydlu setliad ariannu newydd ar gyfer Cymru o fewn Teyrnas Unedig gref.”