Mwy o Newyddion
Golygyddion gwadd newydd i tu chwith #40
Golygyddion gwadd y rhifyn nesaf o tu chwith fydd Elis Dafydd o Drefor a Gruffudd Antur o Lanuwchllyn, sef dau fyfyriwr yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor – Elis ar ei drydedd flwyddyn a Gruffudd ar ganol astudio am radd MA. Bydd y rhifyn yn ymddangos yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr fis Awst, a thema’r rhifyn fydd ‘Caeth/Rhydd’.
Dywedodd Elis: "Dwi wrth fy modd fy mod yn cael y cyfle i olygu tu chwith – mae’n gylchgrawn aruthrol o bwysig sy’n rhoi llais i ddoniau ifainc ac i lenorion y dyfodol, ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio hefo fy nghyd-olygydd a hefo’r llenorion ifainc hynny.
"Gobeithiwn y bydd y thema, ‘Caeth/Rhydd’, yn cynnig digon o gyfle i bobl ymateb, ac anogwn bawb i fynd ati i sgwennu a gyrru eu cynhyrchion atom erbyn y dyddiad cau, sef 16 Mai."
Ychwanegodd Gruffudd: "Mae’r her o olygu’r cylchgrawn yn siŵr o fod yn un sylweddol, yn enwedig gan fod y rhifyn diwethaf o dan olygyddiaeth Llŷr Gwyn Lewis yn un mor afaelgar ac oherwydd nad ydi’r cylchgrawn bellach yn derbyn unrhyw nawdd cyhoeddus.
"Ein gobaith ydi y bydd y rhifyn hwn yn profi pa mor hanfodol ydi cael cylchgrawn sy’n llwyfan ac yn fagwrfa ar gyfer talentau newydd, a gobeithiwn greu rhifyn a fydd yn gyfuniad deniadol o ddoniau llenyddol ac artistig pobl ifainc Cymru."
Golygyddion cyntaf tu chwith yn 1993 oedd Elin Llwyd Morgan a Simon Brooks, a’u gobaith oedd ‘creu cylchgrawn cyfoes a fyddai’n ceisio cwmpasu’r math o weithgarwch creadigol ac ymdriniaeth lenyddol sydd yn absennol mewn cylchgronau eraill’.
Byth ers hynny mae gwaith nifer o enwau mwyaf adnabyddus llenyddiaeth Cymru wedi ymddangos yn y cylchgrawn, gan gynnwys Bethan Gwanas, Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog a Hywel Griffiths.