Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2014

Cronfa adfer busnes Gwynedd – difrod stormydd arfordirol

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sefydlu cronfa adfer busnes i gefnogi’r busnesau twristiaeth rheini yn y sir a effeithiwyd yn dilyn y stormydd garw diweddar.

Yn benodol, bydd y gronfa yn ystyried ceisiadau gan fusnesau fydd yn gallu dangos effeithiau’r tywydd eithafol diweddar, a sut y byddai cymorth yn galluogi'r busnes i fod ar agor ar gyfer y tymor i ddod.

Mae cefnogaeth grant o 50% o gostau cymwys hyd at uchafswm o £5,000 fesul ymgeisydd ar gael.

Mae'r gronfa yn ffurfio rhan o ymateb ehangach a ddatblygwyd gan Gyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i atgyweirio'r isadeiledd twristiaeth a ddifrodwyd yn dilyn y stormydd arfordirol diweddar.

Os ydych yn awyddus gwneud cais am gymorth ariannol o’r gronfa adfer busnes, bydd rhaid cyflwyno cais erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener, 4 Ebrill 2014.

Am ragor o wybodaeth a chopi o’r ffurflen gais a’r canllawiau perthnasol, cysylltwch â Thîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd ar 01286 679392 neu e-bostio: busnes@gwynedd.gov.uk

Rhannu |