Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2014

Cofeb i forwyr yr Iseldiroedd

Bydd carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb deimladwy i gofio'r berthynas agos rhwng pobl Caergybi a morwyr o'r Iseldiroedd a wasanaethodd yn y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bwriedir defnyddio nifer o flociau o garreg sgist mica gwyrdd lleol o Chwarel Jersey ar Fynydd Caergybi, fu’n segur ers peth amser bellach, ar gyfer y Gofeb a fydd yn cael ei chodi ar Draeth Newry, Caergybi yn ddiweddarach y gwanwyn yma.

Mae'r garreg wedi cael ei rhoi yn rhodd i'r prosiect gan Gyngor Sir Ynys Môn trwy ei Wasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio gyda'r RSPB, sy'n lesio safle’r chwarel, a bydd yn ffurfio rhan sylweddol o'r gofeb a fydd yn cynnwys arwyddlun efydd Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd wedi’i osod mewn cast concrid, ynghyd â meinciau wedi’u gwneud o dderw Cymreig neu bren tîc wedi’i adfer.

Mae wedi cael ei chynllunio gan benseiri adfer Purcell, sydd wedi gweithio ar Abaty Westminster ac Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Neuadd St George Lerpwl, yn ogystal â Chofadail Caergybi.

Mae'r gofeb yn cael ei hadeiladu gan Grosvenor Construction, Bae Cinmel, sy’n arbenigo mewn adfer adeiladau hanesyddol, yn eu plith lleoliadau eiconig megis Cestyll Harlech a Chonwy, Neuadd y Dref Lerpwl, Muriau Caer a Melin Wynt Mynydd Parys.

Bydd y gwaith diweddaraf yn dathlu'r berthynas rhwng pobl Caergybi a'r Iseldiroedd, a’r morwyr hynny o longau Llynges yr Iseldiroedd a ffodd o’i mamwlad mewn ymdrech i gadw un cam ar y blaen i fyddin yr Almaen, wrth i’r Blitzkrieg sgubo tua’r gorllewin yn 1940.

Hwyliodd un llong ryfel gyflym, y Jacob Van Heemskerk, a fyddai fel arfer â chriw o 400 ar ei bwrdd, gyda dim ond 23 o ddynion arni ar draws Môr y Gogledd er mwyn dianc oddi wrth yr Almaenwyr. Fe ddiweddodd y llong, ynghyd â llawer o rai eraill, yng Nghaergybi lle chwaraeodd rôl hanfodol ym Mrwydr allweddol Môr Iwerydd yn yr Ail Ryfel Byd.

Roedd llawer o'r llongau a’r dynion wedi’u lleoli yng Nghaergybi lle roeddent yn gwneud gwaith pwysig o glirio ffrwydrynnau yn y môr er mwyn cadw'r llwybrau’n glir ar gyfer confois môr allweddol Prydain ar eu ffordd i Lerpwl.

Cafodd yr Iseldirwyr groeso cynnes ac fe wnaeth llawer ohonynt briodi’n lleol a setlo yn y dref, yn eu plith Mathieu Van Weert, ac mae ei fab, Graham, wrth ei fodd bod y cysylltiad yn cael ei goffáu.

Roedd Graham, gwirfoddolwr yn Amgueddfa Forwrol nodedig Caergybi yn Chwarel Jersey gyda rhai o'i gydweithwyr i weld y garreg yn cael ei dewis, a dywedodd: “Mae'n hollol wych, fedra i ddim credu ei fod yn digwydd go iawn.

“Mae'n beth arbennig cofio’r bobl ddaeth i Gaergybi a nodi'r cysylltiad rhwng pobl Ynys Môn a chenedl yr Iseldiroedd.

“Roedd yn bwysig iawn iddyn nhw eu bod yn cael croeso a theimlo'n gartrefol yma ac mae’r lletygarwch yna’n nodweddiadol o bobl Caergybi a ddaeth yn ail gartref i’r morwyr o’r Iseldiroedd.”

Roedd tad Graham yn un o 116 o forwyr o’r Iseldiroedd i briodi merched lleol. Cyfarfu â Megan Parry, o Gaergybi, mewn dawns yn y dref ac meddai Graham: “Mi wnaeth fy mam ei weld o trwy ffenestr siop, a dim ond un o sawl stori ramantus yw honno.

“Roedd yr ardal o amgylch y chwarel yn lle eithaf rhamantus lle’r oedd cyplau’n arfer mynd i gerdded. Mae'n lle hyfryd gyda golygfeydd o gefn gwlad a’r môr ac felly mae'n addas iawn fod y garreg yn dod o’r llecyn yma.”

Mae'r chwarel ei hun wedi chwarae ei ran yn nhraddodiadau morwrol Caergybi - cyfrannodd saith miliwn tunnell o gerrig ar gyfer morglawdd yr harbwr, y morglawdd hiraf yn y DU ac ar un cyfnod yr hiraf yn Ewrop hefyd, a defnyddiwyd llawer o gerrig a briciau o'r gwaith brics cysylltiedig i godi llawer o adeiladau'r dref.

Caiff y cyswllt gyda'r Iseldiroedd - daeth Mathieu o Maastricht lle mae gan Graham berthnasau o hyd - ei gryfhau ymhellach eleni pan mae disgwyl i un o longau Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd ymweld â Chaergybi ar gyfer dadorchuddio’r gofeb.

Dywedodd Jane Osborne, o Grosvenor Construction: “Byddwn yn mynd â’r garreg fwyaf a'r orau draw i’n iard ym Mae Cinmel lle mae gennym dri saer maen arbenigol, a fydd wedyn yn asesu sut y gellir ei defnyddio orau i gyflawni'r cynllun arfaethedig. Mae'r math yma o garreg yn ddeunydd heriol oherwydd ei nodweddion a’i chaledwch arbennig, ac efallai bydd gofyn gwneud rhai newidiadau.

“Bydd hynny’n cael ei wneud trwy ddilyn manyleb fanwl ac yna bydd y cast efydd yn cael ei osod i mewn iddo a chwblhau gweddill y gwaith adeiladu fel ei bod yn barod ar gyfer y dadorchuddiad arbennig.

“Mae ein holl staff yn ddeiliaid cerdyn Sgiliau Treftadaeth Aur, a ni fydd yn gwneud y gofeb ac yn ei gosod yn ei lle.

“Mae'n brosiect arbennig iawn ac rydym yn hynod falch o gael rhan mewn coffáu’r cyswllt hanesyddol yma rhwng Ynys Môn a'r Iseldiroedd.”

Dywedodd Cynghorydd Sir Caergybi, Bob Llewellyn Jones: “Mae'n nodweddiadol o Gaergybi i roi croeso cynnes i forwyr, yn enwedig yn ystod rhyfel.

“Roedd llawer o'r Iseldirwyr yn ddynion ifanc ac fe wnaethon nhw gyfarfod â merched lleol ac ymgartrefu yma, ac maen nhw wedi bod yn rhan werthfawr iawn o'r gymuned yn y dref ac mae wyrion a hyd yn oed gor-wyrion y morwyr yma o’r Iseldiroedd ac enwau Iseldireg yn dal yma heddiw.

“Roedden nhw'n ddewr iawn ac fe wnaethon nhw chwarae rhan fawr yn ein hanes. Mae hon yn gofeb addas iawn ac rwy'n falch iawn eu bod wedi cael eu cydnabod ac rwy’n gobeithio y bydd yn annog rhai o'u perthnasau yn yr Iseldiroedd i ymweld â'r dref.”

Mae'r arian ar gyfer y Gofeb wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, drwy Fenter Treftadaeth Gymunedol ar gyfer Ymgysylltiad Morwrol (CHIME), Grant Eiddo ac Amgylchedd Cyngor Sir Ynys Môn (PEG) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gyda chefnogaeth bellach gan Gyngor Tref Caergybi a sefydliadau ac unigolion lleol.

Llwyddwyd i sicrhau cyllid ar gyfer y rhan fwyaf o gostau'r prosiect, ond dros y misoedd i ddod bwriedir cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian lleol, y gall pobl eu mynychu neu gyfrannu yn uniongyrchol i Amgueddfa Forwrol Caergybi ar Draeth Newry, Caergybi , neu yn www.holyheadmaritimemuseum.co.uk

Rhannu |