Mwy o Newyddion
Croesawu arian i hybu twristiaeth
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi croesawu arian oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chroeso Cymru tuag at hyrwyddo twristiaeth yng Ngheredigion. Gwneir y buddsoddiad yn sgil cyhoeddusrwydd negyddol am y difrod a achoswyd gan stormydd y gaeaf, ac mae’n rhan o’r Gronfa Adfer Llywodraeth Cymru sy’n helpu’r Cyngor i gywiro’r difrod a mynd i’r afael ag effaith tywydd mawr y gaeaf.
Gydol mis Chwefror gwelwyd lluniau dramatig o ddifrod y stormydd yn y cyfryngau ledled y Deyrnas Gyfunol, a rhoddwyd llawer o sylw i bromenâd Aberystwyth ac arfordir Ceredigion. Caiff y cyllid ei ddefnyddio felly i ariannu ymgyrch dros y gwanwyn i hyrwyddo’r arfordir a lledaenu’r neges fod busnesau twristiaeth lleol â’u drysau’n llydan agored bellach.
Bydd yr ymgyrch, ‘Darganfod Ceredigion’ yn cynnwys hysbysebion trawiadol yn anelu at ymwelwyr o Gymru, canolbarth Lloegr a thu hwnt. Aiff hyn law yn llaw ag ymgyrch farchnata £4miliwn Croeso Cymru sy’n cael ei darlledu ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol: “Mae hyn yn gyfle gwych i Geredigion ac rydym yn ddiolchgar i Groeso Cymru am ddarparu’r cyllid i’n galluogi i hysbysebu fel hyn.
"Rydym yn awr yn gweithio gyda’r asiantaeth leol FBA a’u partneriaid yn Llundain, Four Communications, sydd hefyd yn ymdrin â chysylltiadau cyhoeddus Croeso Cymru ledled y Deyrnas Gyfunol. Wrth weithio law yn llaw â busnesau twristiaeth lleol, gallwn edrych ymlaen at weld llawer mwy o hyrwyddo’n digwydd yng Ngheredigion ar hyd y misoedd nesaf, er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth a thynnu sylw mawr at y sir yn 2014.”