Mwy o Newyddion
Dros hanner Cyngorau Cymru yn gweddarlledu eu trafodion
Mae dros hanner Awdurdodau Lleol Cymru bellach yn gweddarlledu eu trafodion, diolch i gyllid gwerth £1.25m gan Lywodraeth Cymru. Mae tri chyngor ar ddeg, yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, eisoes yn gweddarlledu a bydd rhagor yn dilyn yn fuan.
Heddiw mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths, wedi croesawu’r newyddion ac wedi canmol y cynnydd a wnaed gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru i sicrhau bod Democratiaeth Leol yn fwy agored a thryloyw.
Blaenau Gwent yw’r awdurdod diweddaraf i lansio ei wasanaeth gweddarlledu pan ddarlledwyd trafodion y pwyllgor cynllunio yn gynharach yn y mis. Mae Bro Morgannwg hefyd wedi cyhoeddi ei fod ar fin dechrau gweddarlledu ei gyfarfodydd ar y rhyngrwyd yn fuan. Maen nhw’n ymuno â deuddeg awdurdod arall: Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Torfaen, Sir Fynwy, Powys, Wrecsam, Abertawe, Ceredigion, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd wrth roi eu trafodion ar y rhyngrwyd.
Mae pob Awdurdod Lleol wedi cael £40,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud trafodion y Cynghorau’n fwy hygyrch i’r cyhoedd a galluogi presenoldeb o bell gan gynghorwyr mewn cyfarfodydd cyngor. Rhoddwyd £500 yr un hefyd i Gynghorau Cymuned er mwyn sefydlu gwefannau.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae bod yn agored a thryloyw yn hanfodol i ddemocratiaeth ac yn chwarae rôl bwysig wrth annog pobl i ddangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth leol, i gymryd rhan eu hunain ac i helpu i wella gwasanaethau lleol. Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Leol yng Nghymru yn gwneud cynnydd mor wych yn y maes hwn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy ariannu Cynghorau Bwrdeistref Sirol i ddarlledu eu trafodion ac mae’n wych gweld ymateb mor bositif, gyda dros hanner yr Awdurdodau Lleol eisoes wedi gwneud defnydd da o’r arian hwn. Rwy’n erfyn ar yr awdurdodau eraill i ddilyn eu hesiampl a gosod offer gweddarlledu cyn gynted â phosibl.
“Rwyf hefyd yn falch iawn bod bron pob Cyngor Bwrdeistref Sirol yn caniatáu blogio a thrydar o’u horielau cyhoeddus a’u Siambrau. Mae byd y cyfryngau cymdeithasol yn fyd sy’n esblygu ac yn adnodd rhagorol i’w groesawu. Nid oes unrhyw rwystr cyfreithiol i gynghorwyr na’r cyhoedd ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu ffilmio yn ystod cyfarfodydd cyngor. Mater i bob Awdurdod Lleol unigol i benderfynu arno yw caniatáu ffilmio a blogio ond rwy’n annog pob Cyngor i ystyried y mater o ddifrif.”