Mwy o Newyddion
Menter Caerdydd yn chwilio am sêr rygbi Cymru’r dyfodol
Ar ddiwedd mis Ebrill bydd Menter Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ac Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru yn dechrau clybiau rygbi newydd i blant rhwng 2 a 4 oed. Bydd ‘Rygbi Bach’ yn cwrdd bob bore Sadwrn am 8 wythnos o Ebrill 26 ymlaen gan ddatblygu sgiliau rygbi craidd tra’n cael llawer iawn o hwyl.
Mae ‘Rygbi Bach’ yn ddatblygiad newydd yn dilyn derbyn cyllid gan Gyngor Caerdydd i gynyddu’r ddapariaeth hamdden i blant a phobl ifanc y ddinas a galw gan rhieni plant meithrin sydd am weld mwy o gyfleoedd hamdden i blant trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’r cwrs ‘Rygbi Bach’ yn gyfle gwych i blant i gymryd rhan mewn chwaraeon, mwynhau, a datblygu sgiliau rygbi craidd. Mae’r cwrs hefyd yn adlewyrchu ein ymrwymiad i ateb y galw a chynnig cyfleoedd hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd,” meddai Cynghorydd Ramesh Patel, Cyngor Caerdydd.
Bydd ‘Rygbi Bach’ yn cael ei gynnal yn Neuadd Chwaraeon Talybont, ac mae croeso i fechgyn a merched i gofrestru. Oherwydd natur y sesiynau ac oedran y plant, disgwylir i rhieni aros a chymryd rhan yn y sesiynau. Rydym yn rhagweld galw mawr i’r math yma o glwb, felly bydd angen cofrestru o flaen llaw, ac mae modd gwneud hynny trwy’r wefan www.mentercaerdydd.org.