Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2014

Estyn croeso ym Mrwsel i Fyfyrwyr Gŵyr

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi noddi grŵp o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr sydd yn astudio Gwasanaethau Cyhoeddus. Fe wnaethon nhw ymweld â Senedd Ewrop fel rhan o daith astudio i Wlad Belg.

Gwelir Jill Evans ASE mewn llun gyda’r grŵp yn Senedd Ewrop ym Mrwsel, ynghyd ag arweinydd y grŵp, Robert Evans, sydd yn diwtor y cwrs  ac yn ddarlithydd ar gyfer y BTEC Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dywedodd Jill Evans ASE: “Roedd yn bleser cael noddi’r grŵp yma. Rwyf o hyd yn annog cynifer o bobl â phosib o Gymru i ymweld â’r senedd gan ei fod yn chwarae rhan mor bwysig yn y penderfyniadau sydd yn effeithio ar ein bywydau dyddiol.

“Credaf taw hyrwyddo budd cenedlaethol Cymru ar bob cyfle yw pwrpas fy swydd. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod fy etholwyr yn deall sut mae Senedd Ewrop yn gweithio a sut y dymunwn iddi fod yn fwy agored a democrataidd.

"Fel rhan o ranbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, mae ardal Abertawe gyfan yn elwa’n fawr iawn o ariannu Ewropeaidd. Mae hi’n hanfodol ein bod yn gwneud i Ewrop weithio dros Gymru.”

Rhannu |