Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mawrth 2014

Talu teyrnged i feddygon o Gymru yn dilyn eu cyfnod yn gweithio yn Afghanistan

Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu meddygon a nyrsys o Gymru i’r Senedd wedi iddynt ddychwelyd o Afghanistan.

Lleolwyd gwirfoddolwyr o Ysbyty Maes 203 (Cymru) yn y rheng flaen yn Afghanistan y llynedd.

Ymunodd y Llywydd â’r meddygon a’r nyrsys mewn derbyniad yn y Cynulliad, ar 12 Mawrth, er mwyn talu teyrnged iddynt am eu hymrwymiad.

Roedd y derbyniad yn dilyn ymweliad gan y Llywydd, ynghyd â Kirsty Williams AC, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd â gwersyll asesu cyn-lleoli yr uned yng Nghaerefrog, ym mis Mawrth y llynedd.

Dywedodd y Fonesig Rosemary, yn ei hanerchiad yn y derbyniad: “Roedd yn amlwg eich bod yn weithwyr iechyd proffesiynol nodedig yn eich meysydd. Fodd bynnag, mae rhoi o’ch amser mewn modd mor anhunanol, gan adael eich teuluoedd a’ch ffrindiau, a defnyddio eich sgiliau mewn man ble y mae gwrthdaro, yn ganmoladwy dros ben. 

“Mae’r gofal a’r cymorth meddygol arbenigol a ddarperir gan Wasanaethau Meddygol y Fyddin Diriogaethol i’r fyddin ledled y byd yn sylweddol, ac rwy’n sicr eu bod yn dibynnu’n fawr ar eich cymorth a’ch ymrwymiad chi, fel gwirfoddolwyr.

“Fel Cynulliad, rydym bob amser yn falch o gael talu teyrnged i’r rhai sy’n cyfrannu at achosion da, sy’n rhoi eu hunain mewn perygl neu sy’n aberthu er mwyn helpu pobl eraill.  

“Dyma’r hyn a wnaethoch yn Afghanistan a dyna pam rydych yma heddiw – mae’n braf gweld pob un ohonoch wedi dychwelyd yn ddiogel.”

Mae Gwasanaethau Meddygol y Fyddin Diriogaethol yn darparu gofal meddygol arbenigol lle bynnag y mae’n gweithredu yn y byd.

Er mwyn parhau i weithio’n effeithiol, bydd y Gwasanaeth yn recriwtio pobl o bob rhan o’r sector gofal iechyd, o staff meddygol cymwysedig i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Mae’r rolau unigol yn y Gwasanaeth yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau, cymwysterau a thalentau proffesiynol.

Lle bynnag yn y byd y bydd y fyddin yn cael ei hanfon, bydd y gweithwyr iechyd proffesiynol gorau posibl o Ysbyty Maes 203 (Cymru) (Gwirfoddolwyr) yno i’w cynorthwyo, ac mae ganddynt ran bwysig yn strwythur gwasanaethau meddygol y Fyddin Diriogaethol.

Yng ngogledd Llandaf yng Nghaerdydd y mae pencadlys yr uned ac mae is-orsafoedd ar hyd a lled Cymru. 

Rhannu |