Mwy o Newyddion
Siân Gwenllian yn camu lawr
Wrth i aelod o gabinet Cyngor Gwynedd gyhoeddi ei bwriad i gamu lawr o’i swydd, mae grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn diolch iddi am ei chyfraniad aruthrol, ei harweinyddiaeth a’i gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf.
Y Cynghorydd Siân Gwenllian sy'n arwain ar addysg, plant a phobl ifanc yng Ngwynedd sydd wedi cyhoeddi ei bwriad i gamu i lawr o’i swydd.
Bydd y Cynghorydd Siân Gwenllian yn parhau i gynrychioli trigolion y Felinheli ar Gyngor Gwynedd, ond mae’n awyddus i ganolbwyntio ei hymdrechion dros y ddwy flynedd nesaf ar ei hymgeisyddiaeth fel cynrychiolydd Arfon Plaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.
Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Rydyn ni’n ddyledus i Siân am e hymrwymiad a’i harweiniad o fewn y maes dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mai wedi bod yn allweddol wrth osod yr agenda, gan symud materion addysg yn eu blaenau o fewn Gwynedd gan gydweithio â chynghorwyr, swyddogion, partneriaid, sefydliadau a thrigolion Gwynedd i ddatblygu a chynllunio ymhellach ar gyfer y dyfodol.
"Bydd Siân, yn ddi-os, yn parhau i gymryd diddordeb brwd yng ngwaith yr awdurdod fel cynrychiolydd lleol o fewn ei ward.
”Wrth agosáu at ddwy flynedd wrth y llyw, roedd gennym eisoes gynllun i drafod ad-drefnu’r cabinet yng Ngwynedd. Byddwn felly’n dechrau’r gwaith hwnnw o drafod gyda chynghorwyr," meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards.
Bydd y broses o ddewis aelod cabinet newydd i lenwi’r bwlch yn cychwyn yn y dyddiau nesaf.