Mwy o Newyddion
Liz yn amlinellu ymrwymiad Plaid i roi Cymru'n gyntaf
Mae ymgeisydd Plaid Cymru yn San Steffan ar gyfer sedd Dwyfor Meirionnydd, y Cynghorydd Liz Saville Roberts, wedi defnyddio ei haraith gyntaf yng Nghynhadledd Wanwyn y blaid i amlinellu ymrwymiad Plaid Cymru i roi Cymru'n gyntaf.
Wrth siarad ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yng Nghaerdydd, nododd y Cynghorydd Roberts mai Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd ddim yn gaeth i feistri yn San Steffan, a pham fod Cymru angen llais cryf wrth y bwrdd Ewropeaidd yn ffurf ASE Plaid Cymru.
Lleisiodd Liz feirniadaeth chwyrn o "wleidyddiaeth ofn a chasineb" llywodraeth San Steffan sy'n cosbi'r tlawd a'r anghenus, ac amlygodd obsesiwn Llafur a gweld bai ar lywodraethau Caerdydd a San Steffan am yn ail.
Dywedodd Liz: "Wrth i mi weithio tuag at gadw sedd Dwyfor Meirionnydd i Blaid Cymru, rhaid cyfleu addewid ein plaid i roi Cymru'n gyntaf yn glir ar y stepen drws.
"Yr hyn yr ydw i eisiau i bobl yr etholaeth hon a Chymru gyfan sylweddoli yw gallu unigryw Plaid Cymru i flaenoriaethu buddiannau pobl Cymru, mewn cyferbyniad llwyr a'r pleidiau eraill sy'n dewis ymddwyn fel gweision bach i'w meistri yn San Steffan.
"Mae llywodraeth y DU wedi dewis trywydd o wleidyddiaeth ofn a chasineb sy'n cosbi'r tlawd a chodi cywilydd ar y rhai sy'n profi'r anffawd o fod yn llai cyfarfal nag eraill mewn cymdeithas sy'n sicrhau anydraddoldeb fel nodwedd genedlaethol.
"Nid yw hynny'n rhoi Cymru'n gyntaf mewn unrhyw ffordd. Yn wir, rydym yn cael ein tarro gan ergydion yn y frwydr rhwng y ddwy brif blaid yn San Steffan, wrth i'n hysbytai a'n hysgolion droi'n destun gwawd gan y Toriaid nid mewn ymdrech i wella gwasanaethau ond yn hytrach i sgorio goliau gwleidyddol yn erbyn Llafur nol yn Llundain.
"Gyda phleidiau San Steffan yn anfodlon rhoi Cymru'n gyntaf, rydym angen i'n cynrychiolwyr Plaid Cymru ar bob lefel wleidyddol o'r cyngor cymuned i'r Senedd Ewropeaidd.
"Bydd ein neges gadarnhaol o 1,000 o feddygon newydd, Banc Cymru, gwasanaethau iechyd a chmdeithasol cysylltiedig, cyfraddau busnes bach buddiol a mwy o rym dros ein materion ein hunain yn ennyn gobaith, hyder ac uchelgais ymysg pobl Cymru.
"Dros y flwyddyn nesaf rwy'n benderfynol o chwarae fy rhan yn llawn er mwyn lledu'r negeseuon hyn ledled Dwyfor Meirionnydd a thu hwnt, a sicrhau'r llais cryfaf posib i Gymru yn San Steffan."