Mwy o Newyddion
Ehangu Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau
Mae cynlluniau ar droed i ehangu Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau fel bod rhagor o fusnesau’n gallu elwa ar eu statws Ardal Fenter a chynyddu eu potensial i ddenu buddsoddwyr.
Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau sydd wedi argymell i Weinidog yr Economi, Edwina Hart, y dylid newid ffiniau’r Ardal Fenter.
Cymeradwywyd pedwar estyniad i ffiniau’r Ardal Fenter:
estyn ffin Maes Awyr Hwlffordd i gynnwys Stad Ddiwydiannol Withybush;
estyn Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro, Waerloo a London Road i mewn i’r ardal ddiwydiannol a derfynir gan London Road a Ferry Lane;
estyn ffiniau safleoedd Waterston a Blackbridge i gynnwys dwy ardal o dir cyfagor (sef Stad Ddiwydiannol Waterston a “Daffodil Fields” i’r dwyrain o Hazelback Road);
estyn Safle Gorsaf Bŵer RWE a Phurfa Valero.
Wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywedodd Mrs Hart: “Bydd estyn y ffiniau fel hyn yn galluogi rhagor o fusnesau lleol i elwa ar fanteision yr Ardal Fenter, er enghraifft Cynllun Ardrethu Busnes yr Ardaloedd Menter. Bydd hefyd yn denu rhagor o fuddsoddi yn yr Ardal Fenter.”
Dywedodd Cadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Nick Bourne, ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad. “Mae’r bwrdd yn falch iawn bod y Gweinidog wedi cymeradwyo ein harghellion i estyn ffiniau’r Ardal Fenter. Mae hwn gam pwysig ymlaen i’r Ardal Fenter, ac mae’n hanfodol i lwyddiant hirdymor yr Ardal.”
Cewch weld mapiau newydd o ffiniau’r Ardal Fenter yn:
www.business.wales.gov.uk/enterprisezones/cy/ardaloedd/dyfrffordd-y-daugleddau
Llun: Edwina Hart