Mwy o Newyddion
Cynnig ffordd newydd o fyw i S4C yn Sir Gaerfyrddin
Yr Egin yw’r enw ar gais arloesol ac uchelgeisiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i adleoli S4C yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Egin yn cynrychioli gweledigaeth a fydd yn cynnig ffordd newydd o fyw i’r Sianel genedlaethol wrth ddod â hi i galon ei chynulleidfaoedd craidd ac i ranbarth lle nad oes ganddi bresenoldeb ar hyn o bryd.
Dywed Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Caerfyrddin y Brifysgol: “Mae angen S4C ar Sir Gaerfyrddin ond mae angen Sir Gaerfyrddin ar S4C hefyd.
"Gallasai denu Pencadlys S4C fod yn hwb aruthrol i’r rhanbarth o safbwynt economaidd, ieithyddol a diwylliannol.
"Yn dilyn siom canlyniadau’r Cyfrifiad diwethaf ynghylch niferoedd y siaradwyr Cymraeg ar draws y Sir, gellid gweld dyfodiad pencadlys S4C yn gatalydd posibl ar gyfer adfywio’r Gymraeg a grymuso ei statws yn y rhan hon o Gymru.
"Byddai dewis Caerfyrddin yn gartref i bencadlys y sianel yn cryfhau rôl Caerfyrddin fel ardal dwf ar gyfer y Gymraeg, fel yr argymhellwyd yn adroddiad Grŵp Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2013”.
“Ond hefyd, cynigiwn ffordd newydd o fyw i’r Sianel. Mae ein cais wedi’i wreiddio yn nhir a daear Sir Gâr ond mae’n ymestyn allan i gymunedau eraill ledled Cymru. Ein bwriad, pe bai’r cais yn llwyddiannus, yw adeiladu adeilad eiconig lle byddai S4C yn cyd-leoli gyda chwmnïau, asiantaethau a sefydliadau eraill er mwyn creu pair creadigol."
Wrth sicrhau presenoldeb corff cenedlaethol megis S4C dywed y Brifysgol, sy’n arwain y cais ar ran y rhanbarth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn brif bartner, y byddai’n creu swyddi ac isadeiledd yn y rhanbarth a fyddai’n annog pobl ifanc i aros yn yr ardal i fyw a gweithio ac i annog eraill i ddychwelyd i fro eu mebyd.
“Tra bod modd denu tua 50 o swyddi S4C i’r Sir, gallasai presenoldeb y Sianel greu rai dwsinau o swyddi newydd sbon, a gallasai hyn gael effaith arwyddocaol ar dwf yr iaith, ein hysgolion, ein busnesau a’r economi” ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones.
Y bwriad fydd adeiladu’r Egin ar dir y Brifysgol gyfagos i adeilad y Llwyfan, sy’n gartref i Theatr Genedlaethol Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan greu “Dyffryn Creadigol” lle bydd modd i ddiwydiannau gyd-weithio a chyd-leoli a lle bydd modd i aelodau’r gymuned fanteisio ar yr adnoddau a’r cyfleusterau.
Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae’r potensial yn aruthrol i atgyfnerthu S4C yn genedlaethol wrth inni weithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Sianel ynghyd â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
"Y mae’r Egin yn fwy nag adeilad newydd; y mae’r weledigaeth yn un uchelgeisiol ac mae’n cynnig cyfle i greu rhywbeth o’r newydd wrth ddod ag arbenigwyr at ei gilydd i greu micro-fusnesau a chyfleoedd gwaith yn y rhanbarth sy’n gysylltiedig â’n cynnyrch creadigol.
“Byddai dewis Sir Gaerfyrddin yn gyfle i’r Sianel ymsefydlu mewn ardal lle nad oes iddi bresenoldeb ar hyn o bryd, gan felly sicrhau effaith gadarnhaol ar yr iaith, diwylliant, yr economi a chymunedau’r rhanbarth. Yr ydym yn hollol argyhoeddedig, o’r holl opsiynau a gyflwynir ger bron yr Awdurdod, mai Sir Gaerfyrddin a fyddai’n sicrhau’r impact mwyaf ar Gymru a’i chymdeithas”.