Mwy o Newyddion
Chwilio am y band ifanc Cymraeg gorau
Ydych chi’n aelod o fand ifanc Cymraeg, neu efallai’n nabod rhywun sydd mewn band?
Mae cystadleuaeth flynyddol Brwydr y Bandiau, a drefnir gan Fentrau Iaith Cymru ac C2 BBC Radio Cymru, yn anelu i ddod o hyd i fandiau ifanc a thalentog gorau Cymru ac fe lansiwyd y gystadleuaeth eleni yn fyw ar sioe radio Lisa Gwilym nos Fercher, Chwefror 26.
Cafodd Lisa ei henwi yn Gyflwynydd Gorau am y drydedd flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar Chwefror 15, ac fe ddywedodd: “Gwnaeth yr enillwyr y llynedd, Y Ffug, argraff fawr ar wrandawyr, ac roedden nhw’n enillwyr teilwng ar y gystadleuaeth.
"Alla i ddim aros i glywed yr holl fandiau ifanc newydd gwych eleni, ac mae'n gyffrous i feddwl y gallen ni fod yn dystion i ddechrau gyrfa wirioneddol anhygoel yn y byd cerddorol.”
Yn dilyn tair rownd rhanbarthol, bydd rownd gyn-derfynol yn cael ei darlledu ym mis Ebrill ar dair noson yn olynol, a’r gwrandawyr fydd yn cael pleidleisio dros eu hoff berfformiad a phenderfynu pwy fydd yn mynd drwodd i’r rownd derfynol.
Bydd y bandiau llwyddiannus wedyn yn cael recordio fersiwn stiwdio o'u cân, a honno fydd yn cael ei darlledu yn y rownd derfynol er mwyn i’r gwrandawyr bleidleisio dros eu hoff berfformiad - ac enillwyr Brwydr y Bandiau 2014!
Bydd llu o wobrau ar gyfer yr enillwyr, gan gynnwys recordio sesiwn ar gyfer C2 ar BBC Radio Cymru, byddant hefyd yn cael perfformio'n fyw yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, ac mewn gigs Mentrau Iaith Cymru. Yn ogystal, byddant yn cael sesiwn tynnu lluniau gyda ffotograffydd proffesiynol ac erthygl tudalen lawn yn nghylchgrawn Y Selar.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu eleni, gyrrwch e-bost gyda’ch manylion i c2@bbc.co.uk. Bydd rhagor o fanylion, a Thelerau ac Amodau, ar wefan C2: bbc.co.uk/c2