Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Chwefror 2014

Arian Ewropeaidd yn Gwneud Gwahaniaeth yn Nant Gwrtheyrn

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt, yn ystod ymweliad â chanolfan eiconig Nant Gwrtheyrn yn y Gogledd ddydd Mercher, fod buddsoddiad gan yr UE wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’r gymuned, gan greu cyfleoedd gwaith a denu miloedd o ymwelwyr i’r ardal.

Ail-agorwyd y ganolfan yn swyddogol ym mis Mawrth 2011 yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £5m dros dair blynedd, gyda £2.2m yn dod gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae cyfleusterau newydd yn cynnwys canolfan dwristiaeth unigryw, gyda llety pedair seren, ffordd newydd, ystafell gyfarfod ac arddangosfeydd. 

Mae’r prosiect yn cynnig pob math o gyfleusterau a rhesymau i ddod i’r lleoliad unigryw, a fydd yn denu mwy o ymwelwyr, gan gynnwys y cyhoedd a grwpiau â diddordebau arbennig fel cerdded, gwylio adar a gweithgareddau awyr agored eraill. Mae’r busnes yn Nant Gwrtheyrn wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl ers yr adnewyddu.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae wedi bod yn bleser o’r mwyaf i gael gweld y cyfleusterau sydd ar gael yn Nant Gwrtheyrn heddiw. Mae’r trawsnewid hwn yn dangos effaith gadarnhaol arian Ewropeaidd ar ein cymunedau. Mae Nant Gwrtheyrn yn gyflogwr llwyddiannus a phwysig yn y rhan hon o’r Gogledd, a hynny yn sgil y buddsoddiad sydd wedi’i wneud yma.”

Mae nifer o adeiladau rhestredig yn Nant Gwrtheyrn sy’n dyddio o’r amser pan oedd yn bentref chwarel. Gadawodd y trigolion olaf yn yr 1950s ac ers 1978 mae’r safle wedi cael ei ddatblygu’n ganolfan genedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant.
 

Rhannu |