Mwy o Newyddion
Ysbryd Cyumunedol yn ailgodi yng Nghymru
Yn ôl ymchwil newydd gan TSB mae awydd yn bodoli i ailddeffro ysbryd cymunedol ac mae pobl yn dweud ei fod eisoes yn teimlo’n gryfach nawr nag y mae wedi teimlo yn y 30 mlynedd diwethaf.
Yng Nghymru, dywedodd tri chwarter (75%) y rhai oedd yn rhan o’r arolwg bod eu cymuned yn bwysig iddynt, ac er bod dau ym mhob pump (39%) yn teimlo eu bod yn rhan o’u cymuned, byddai bron i chwarter (24%) yn hoffi chwarae mwy o ran ynddi.
Ond, dywedodd bron i draean (29%) y defnyddwyr yng Nghymru mai'r prif rwystr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol oedd dim digon o amser. I lawer o bobl yng Nghymru, (72%) y dref neu’r pentref lle maent yn byw yw eu cymuned. Ond, i rai pobl (4%) ar-lein mae eu cymuned ar ffurf rhwydweithiau cymdeithasol.
Y 1940au sy’n cael eu hystyried yn oes aur yr ysbryd cymunedol ym Mhrydain o hyd, ysbryd oedd wedi pylu'n raddol erbyn y 90au. Ond, mae defnyddwyr o’r farn bod ysbryd cymunedol yn gryfach nawr nag y mae wedi bod yn y 30 mlynedd diwethaf. Dywedodd bron hanner (46%) y rhain yng Nghymru bod cyfarfod i drafod diddordebau a materion lleol yn eu sbarduno i chwarae rhan yn eu cymdogaethau.
Creu arweinwyr cymunedol...
Yng Nghymru, y ffigurau y mae pobl fwyaf cyfarwydd â nhw yn y gymuned yw postmyn (49%), meddygon (34%), dynion/merched siopau papur newydd (30%) a landlordiaid tafarndai (27%). Ond dim ond 5% sy'n meddwl bod eu rheolwr banc yn ffigur lleol blaenllaw. Mae TSB am fynd i’r afael â hyn ac mae eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth:
· Mae TSB wedi cyflwyno rheolwr banc dynodedig ym mhob un o'i 631 cangen sy'n barod i gyfarfod â chwsmeriaid cyn gynted â'u bod yn cerdded i mewn i'w cangen leol.
· Pobl leol sy’n gweithio ym mhob cangen ac mae ganddynt ddiddordeb brwd yn yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned leol.
· Mae TSB am i’w reolwyr banc gymryd rhan yn eu cymunedau a dyna pam y mae bob aelod o staff yn cael diwrnod i gyfrannu at ei ardal leol.
Mae TSB hefyd wrthi’n cyflogi 150 o bobl ledled y DU i gryfhau cefnogaeth yn ei ganghennau a rhoi gwasanaeth gwell i’r cymunedau lleol y mae’n gweithredu ynddynt.
Meddai Peter Navin, Rheolwr-Gyfarwyddwr Bancio Busnes a Bancio mewn Canghennau TSB: “Mae’r arolwg yn dangos bod eu cymunedau yn agos at galonnau defnyddwyr, a ninnau. Mae TSB yn awyddus i sicrhau mai rhywbeth o'r oes a fu yw banciau anhysbys a dyna pam rydym wedi cyflwyno rheolwr banc dynodedig ym mhob cangen, er mwyn gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ei adnabod a'i fod yn y neuadd fancio, yn barod i helpu ein cwsmeriaid.
“Mae ein cystadleuwyr yn cau canghennau ond rydym ni yn mynd yn groes i'r tueddiad ac yn bwriadu ehangu er mwyn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar wasanaethu ein cwsmeriaid lleol, hybu economïau lleol a helpu cymunedau lleol i ffynnu ym mhob rhan o Brydain."