Mwy o Newyddion
Lansio cawcws Cymru ar Fryn y Capitol
Bydd gan Gymru lais cryf yng nghanol Llywodraeth yr Unol Daleithiau diolch i gawcws newydd a lansiwyd ar Fryn y Capitol gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Aelodau cawcws Cyfeillion Cymru yw Cyngreswyr o bob cwr o UDA sydd oll â chysylltiadau agos â Chymru yn sgil busnes, addysg a theulu.
Bydd y cawcws yn cryfhau’r cwlwm rhwng Cymru ac UDA drwy hybu buddiannau Cymru a chefnogi digwyddiadau i hyrwyddo Cymru ar Fryn y Capitol.
Gwireddwyd y grŵp dwybleidiol diolch i waith gan y Cyngreswr Morgan Griffith (Gweriniaethwr – Virginia), sydd wedi bod yn gefnogwr mawr o Gymru ers amser hir.
Dywedodd y Prif Weinidog, sydd ar ymweliad pum niwrnod ag UDA i hyrwyddo Cymru: “Mae gan Gymru gysylltiadau cryf a hanesyddol ag UDA, sy’n dyddio yn ôl i sylfaenu’r Undeb ac sy’n para hyd heddiw. Mae gan bob Cyngreswr sydd wedi ymuno â chawcws Cyfeillion Cymru gariad mawr at ein cenedl.
“Mae’r cawcws newydd yn rhoi cefnogaeth gref i Gymru ac yn cynnig llwyfan gwych ar gyfer hyrwyddo Cymru fel lleoliad gwych ar gyfer busnes, diwylliant a thwristiaeth.
“Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Cyngreswr Griffith am ei waith yn sefydlu’r grŵp ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu aelodau i Gymru yn y dyfodol.”
Bydd y cawcws yn rhoi mwy fyth o bresenoldeb i Gymru yn UDA. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb ar draws yr Unol Daleithiau, yn San Francisco, Efrog Newydd, Washington D.C a Chicago, gan gynnig cysylltiadau gwerthfawr i ddenu masnach a buddsoddiad, a chryfhau cysylltiadau economaidd a diwylliannol.
Mae’r Prif Weinidog yn UDA ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn cyfres o gyfarfodydd a digwyddiadau i godi proffil Cymru cyn Dydd Gŵyl Dewi.
Cyngreswr Griffith gyda'r delynores Claire Jones a Carwyn Jones