Mwy o Newyddion
Cyngerdd arloesol yn y pwll nofio
Ym Mhwll Nofio Bangor ar ddydd Gwener 7 Mawrth 2014 bydd cyfle unigryw i fod yn rhan o ddigwyddiad cerddorol amgen ac unigryw Wet Sounds.Bydd y gynulleidfa'n arnofio yn y dŵr yn hytrach nag eistedd mewn seddau theatr, ac yn gwrando ar berfformiadau gan Y Niwl, Joel Cahen a Chaparral Andrew Hodges trwy seinyddion tanddwr arbennig.
Mae Soundlands a Dinas Sain Bangor, mewn cydweithrediad â Phontio, yn cyflwyno'r digwyddiad hwn am yr ail dro ym Mangor ar ôl llwyddiant ysgubol sioe flaenorol yn 2011 pan werthwyd pob tocyn. Hefyd yn y pwll bydd celfyddyd fyw danddwr sgwba gan Megan Broadmeadow a dawns ddŵr newydd gan y coreograffydd Lisa Spaull.
Bydd Wet Sounds yn creu dau ofod sain ym Mhwll Nofio Bangor - y naill o dan y dŵr a’r llall ar ben y dŵr – gallwch ddewis cymysgu'r gerddoriaeth eich hun wrth arnofio ar y wyneb, plymio o dan y dŵr neu ymlacio wrth ochr y pwll.
Dywedodd Dominic Chennell, un o'r trefnwyr: "Mae’n wych gallu dod â Wet Sounds yn ôl i Fangor yn dilyn llwyddiant ein hymweliad diwethaf, ac mae'r rhestr artistiaid y tro yma'n debygol o apelio at bawb, gydag amrywiaeth o berfformiadau, artistiaid sain a cherddorion yn chwarae drwy seinyddion o dan y dŵr yn ogystal ag uwch ben y dŵr. Byddwn hefyd yn newid y goleuo yn y pwll, felly peidiwch â disgwyl y profiad pwll nofio arferol - mae hwn yn wahanol iawn i sesiwn nofio neu ymlacio yn y dŵr arferol!"
Ychwanegodd: "Rydym yn awgrymu eich bod yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw achos gwerthwyd y cyfan tro diwethaf, dydyn ni ddim eisiau siomi neb. Mae croeso i bawb."
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: “Gyda llai na 7 mis i fynd cyn i adeilad Pontio agor, mae’n bleser gennym fod yn gweithio unwaith eto gyda Wet Sounds i ddenu cynulleidfa i berfformiadau arloesol ym Mangor. Mae’n brofiad sy’n ehangu ffiniau'r gyngerdd draddodiadol!"
Mae Wet Sounds yn dechrau am 8pm ac mae'r tocynnau ar gael gan Pontio: 01248 382828 neu www.pontio.co.uk neu o siop Pontio, Stryd Fawr Bangor. £10 / £7 gostyngiadau.