Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Chwefror 2014

Y Cymry’n heidio i Eisteddfod yr Urdd Llundain

Am 10:00, Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2014, cynhelir Eisteddfod yr Urdd i gystadleuwyr sy’n byw y tu allan i Gymru yng Nghapel Jewin, Y Barbican, Llundain. Eleni, bydd 200 o gystadleuwyr yn mentro i’r Eisteddfod gan gymryd rhan mewn dros 30 o gystadlaethau amrywiol.

Dyma’r drydedd tro i’r Eisteddfod ranbarthol gael ei chynnal yn Llundain, ac mae’r gefnogaeth yn tyfu’n flynyddol. Nôl yn 2006 y trefnwyd yr Eisteddfod gyntaf ar gyfer aelodau’r Urdd oedd yn byw dros y ffin, a hynny yng Nghaerdydd. Bryd hynny, 6 cystadleuydd oedd yn mentro i gystadlu.

Mae’r cystadleuwyr eleni yn dod o Ysgol Gymraeg Llundain, Aelwyd Llundain, a Swydd Derby gyda rhai aelodau unigol o Ysgol Gerdd Cheetham’s ym Manceinion, Guildford School of Acting yn Llundain ac Ysgol Langtree, yn Swydd Rhydychen hefyd yn dod draw i gystadlu.

Y beirniaid eleni fydd:

·         Lleisiol - y soprano, Glenys Roberts a’r canwr a’r actor, Aled Pedrick

·         Llefaru a Theatr - yr actores Carys Eleri yn yr adran

·         Offerynnol - Elen Haf Richards, feiolinydd gyda’r Royal Philharmonic Orchestra

·         Cerdd Dant - Aeron Walters

Cyfeilyddion - Dr Elwyn Evans a Siwan Mair Rhys

Cynhelir yr Eisteddfod yn y Capel ac i lawr yn y festri bydd Siop Mistar Urdd, ardal weithgareddau wedi ei drefnu gan Gylch Ti a Fi Llundain, a chaffi yn gwerthu danteithion. 

Llun: Elen Haf Richards

Rhannu |