Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Chwefror 2014

Tair wythnos olaf y Pedwar Llyfr

Bydd arddangosfa’r Pedwar Llyfr: eiconau Cymraeg ynghyd yn cau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 15 Mawrth. Yn fuan wedyn, dychwelir Llyfr Coch Hergest i Loegr, ac yn ôl i storfeydd Llyfrgell Bodley, Rhydychen.

Tros y chwe mis diwethaf, bu’r Llyfr Coch yn rhannu câs gwydr gyda thrysorau eraill y genedl – Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, a Llyfr Aneirin – yn arddangosfa’r Llyfrgell Genedlaethol, a hynny am y tro cyntaf erioed. Cyn hyn, unwaith yn unig y bu’r Llyfr Coch yng Nghymru ers ei alltudiaeth i Rydychen ym 1701, ac ni ddisgwylir y bydd yn croesi Clawdd Offa eto am rai blynyddoedd.

Dywedodd Dr Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol: "Bydd yn drist gweld y trysor hwn yn ymadael unwaith eto â Chymru, ond rydym yn ddiolchgar iawn i Goleg Iesu Rhydychen, a Llyfrgell Bodley, am fod mor barod i ganiatau i ni ei fenthyca.

"Trwy ei gael yma am chwe mis, llwyddwyd i gwblhau pedwarawd o drysorau llenyddol cynharaf y genedl, a gwireddu breuddwyd o ddangos goreuon ein llenyddiaeth gyda’u gilydd am y tro cyntaf erioed."

Yn Llyfr Coch Hergest y ceir trysorau megis Pedair Cainc y Mabinogi, Breuddwyd Rhonabwy, traethawd Meddygon Myddfai, a cherddi chwedl Llywarch Hen. Lluniwyd y gyfrol ar gyfer Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan, ger Abertawe, a hynny gan 3 unigolyn a weithiai fel tîm rhwng tua 1382 a 1410. Enw un ohonynt oedd Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt.

Dywedodd Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: "Pleser oedd gweld pedwar o drysorau’r genedl gyda’u gilydd am y tro cyntaf erioed. Pleser hefyd oedd gweld cymaint o ymwelwyr - o blant ysgol, ac o bobl o Gymru a’r tu hwnt - yn manteisio ar eu cyfle i ymweld â’r sioe unigryw hon. Bu’n gyfle i ddathlu hynafiaeth ein llên, ac i ddathlu cyfrifoldeb y Llyfrgell fel diogelydd cynifer o’n llawysgrifau cynharaf."

Dilynir y Pedwar Llyfr, o 29 Mawrth hyd 14 Mehefin 2014, gan Dweud stori: Chaucer a Chwedlau Caergaint, arddangosfa sy’n rhoi sylw i un o brif drysorau’r Llyfrgell Genedlethol, sef llawysgrif Hengwrt o Chwedlau Caergaint Geoffrey Chaucer. Dyma gyfle’r ymwelydd i weld y llawysgrif gynharaf o’r campwaith llenyddol Saesneg hwn, ac i ofyn paham tybed y mae trysor o’r fath i’w gael yma yng Nghymru?

Rhannu |