Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Chwefror 2014

£12.11 miliwn arall ar gyfer band eang cyflym iawn yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau £12.11 miliwn arall i gynnig cyswllt band eang cyflym iawn i fwy o bobl yng Nghymru.

Bydd yr arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth y DU yn caniatáu i hyd yn oed mwy o ardaloedd fanteisio ar fand eang ffeibr cyflym, sy’n fwy na’r hyn sydd wedi'i gynllunio trwy'r rhaglen Cyflymu Cymru.

Cyflymu Cymru yw'r bartneriaeth fwyaf o'i math yn y DU a’i nod, gyda darpariaeth y sector preifat, yw sicrhau y gall 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru dderbyn band eang ffeibr cyflym erbyn 2016.

Mae adolygiad ar waith ar hyn o bryd i nodi'r ardaloedd hynny na fydd yn gallu  derbyn band eang ffeibr cyflym o dan gynllun Cyflymu Cymru nac ychwaith gan unrhyw ddarparwr yn y sector preifat.

Bydd yr arian newydd hwn yn helpu i ymdrin â'r ardaloedd hynny a sicrhau bod hyd yn oed mwy o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn gallu derbyn band eang o'r radd flaenaf.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: "Ein cynlluniau ar gyfer band eang ffeibr cyflym iawn yw'r rhai mwyaf uchelgeisiol yn y DU.

"Rydyn ni am sicrhau bod llawer iawn o eiddo yn gallu derbyn y math hwn o fand eang yn gyflymach.

"Er gwaethaf ein huchelgais ni, bydd nifer bach o eiddo na fydd yn gallu ei dderbyn o hyd.

"Ond, mae'r arian ychwanegol hwn a gyhoeddwyd heddiw, ynghyd â chanfyddiadau ein hadolygiad, yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o fusnesau a chartrefi yn gallu manteisio ar fand eang ffeibr cyflym."
 

Rhannu |