Mwy o Newyddion
Galw ar Vodafone i adfer gwasanaeth ar frys
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams, yn galw ar gwmni ffonau symudol Vodafone i adfer gwasanaeth ffôn ar draws nifer o gymunedau yn ei etholaeth, sy’n parhau heb rwydwaith ffôn ers dros bythefnos.
Mae trigolion sy’n byw yn Llanberis, Bontnewydd, Dyffryn Nantlle a rhannau o Gaernarfon wedi methu a defnyddio ffonau symudol i dderbyn a gwneud galwadau ers i’r ardal ddioddef difrod yn sgil y stormydd ddechrau’r mis.
Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â Mr Williams, yn enwedig o ardal Llanberis, gan ddatgan eu bod wedi derbyn negeseuon cymysg gan Vodafone ynglŷn â phryd y disgwylir i’r gwasanaeth gael ei adfer.
Mae rhai yn honi fod y cwmni wedi methu â chydnabod bod problem yn bodoli, tra bod eraill yn cael eu hysbysu y gall gymryd wythnosau i’r gwasanaeth gael ei adfer yn llwyr.
Dywedodd Mr Williams: “Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu, yn gyfiawn flin a rhwystredig am y diffyg gwasanaeth ffonau symudol yn yr ardal dros yr wythnosau diwethaf.
"Tra fy mod yn deall bod y stormydd diweddar wedi achosi problemau i’r gwasanaeth, mae gan Vodafone ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth gywir ynglŷn â phryd mae disgwyl i’r gwasanaeth gael ei adfer.”
Ychwanegodd Mr Williams: “Rwyf wedi ysgrifennu ar frys i Vodafone, gan egluro’r problemau y mae’r diffyg gwasanaeth yn ei achosi i fy etholwyr yn Arfon, gan gynnwys rhai sy’n ddibynnol ar ffonau symudol ar gyfer eu gwaith.
"Ar wahân i gydnabod bod problem yn bodoli, nid wyf wedi derbyn ateb derbyniol ynglŷn â phryd mae’r gwasanaeth yn debygol o weithio eto.
"Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae gwasanaeth ffonau symudol yn yr ardal yma yn anghyson ar y gorau, ond mae gadael pobl heb wasanaeth am bron i bythefnos yn annerbyniol.
"Mae llawer o’m etholwyr yn dibynnu ar eu ffonau symudol ar gyfer eu gwaith ac i gadw mewn cysylltiad â’r teulu a ffrindiau. Os ydynt yn talu am y gwasanaeth yna dylsai fod ar gael!
"Ni ddylai gwasanaeth ffonau symudol a band eang fod yn loteri côd post. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers talwm am rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a fyddai’n darparu gwasanaeth cyflym a dibynadwy beth bynnag yw cyfeiriad eich eiddo.”