Mwy o Newyddion
Morgan Parry, Sylfaenydd WWF Cymru – ni chaiff ei anghofio byth
Mae plac pren cynaliadwy wedi cael ei ddadorchuddio gan arweinwyr WWF-UK a WWF Cymru i nodi cyfraniad Morgan Parry, sylfaenydd WWF Cymru, a fu farw ym mis Ionawr.
Morgan a sefydlodd swyddfa WWF Cymru yng Nghaerdydd yn 2000 ac ef oedd yn gyfrifol am feithrin ein gwaith, ein proffil a’n henw da yng Nghymru hyd nes iddo adael yn 2009.
David Jenkins, Cyfarwyddwr Coed Cymru, a gerfiodd y plac pren, sydd wedi’i wneud o bren pisgwydd o Raeadr Gwy, ac sy’n dwyn y geiriau ‘Morgan Parry, sylfaenydd WWF Cymru. Bu fyw yn ôl ei gred ac ysbrydolodd lawer.’
Caiff y plac ei arddangos mewn ystafell sydd newydd gael ei henwi ‘Ystafell Morgan Parry’ a chafodd ei gyflwyno i David Nussbaum, Prif Weithredwr WWF-UK ac Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru.
Dywedodd David Jenkins: “Roedd Morgan yn berson gwirioneddol ryfeddol. Roedd yn berson oedd yn byw’n unol â’i gredoau. Roedd yn gweithredu’n unol â’i ddaliadau, ac ysgogodd eraill i wneud yr un peth.
“Yn ystod ei gyfnod fel Aelod o Fwrdd Coed Cymru bu ei gyfraniad yn werthfawr iawn a byddaf yn ei golli’n fawr.”
Dywedodd Anne Meikle: “Ysbrydolodd Morgan lawer o bobl ac mae arnom ddyled fawr iddo. Roeddem yn awyddus iawn i sicrhau na chaiff ei gyfraniad i WWF ei anghofio byth, ac mae’r plac hwn yn un ffordd fach o wneud hynny.”