Mwy o Newyddion
‘Rhowch anghenion ein cymunedau’n gyntaf’
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn ailadrodd ei galwad ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud cais i Gronfa Cydsafiad yr Undeb Ewropeaidd er mwyn helpu cymunedau sydd wedi cael eu difrodi gan ddifrod a achoswyd gan y stormydd a llifogydd.
Fe wnaeth Jill Evans alw ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol am y tro cyntaf i wneud cais i’r UE am help yn y flwyddyn newydd, ond fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru na fyddai llywodraeth y DG yn gwneud cais am help o’r gronfa er mwyn helpu cymunedau Cymreig. Yn ôl rheolau’r UE, dim ond Aelod Wladwriaethau all wneud cais i Gronfa Cydsafiad yr UE.
Gyda llifogydd yn dechrau yn ne-ddwyrain Lloegr, cafwyd mwy o alwadau ar lywodraeth y DG i ymgeisio am yr arian argyfwng hwn. Er i’r llywodraeth wrthod ystyried gwneud cais bob tro, mae’n bosib y byddant yn cael eu gorfodi i ailedrych ar y penderfyniad oherwydd pwysau gan y cyhoedd.
Dywedodd Jill Evans ASE: "Dechreuodd y difrod i arfordir Cymru yn gynnar ym mis Ionawr ac fe gawsom ein taro gan stormydd am wythnosau ers hynny.
"Sefydlwyd Cronfa Cydsafiad yr UE er mwyn iddo gael ei ddefnyddio gan wledydd a darwyd gan drychinebau naturiol i’w helpu gydag adferiad.
"Mae dinasyddion Cymru , fel dinasyddion eraill yr UE yn talu mewn i’r Gronfa Cydsafiad ac ar adeg pan fod cartrefi, busnesau ac ardaloedd cyfan yn cael eu difrodi gan dywydd eithafol, fe ddylai llywodraeth y DG fod wedi gwneud cais ar unwaith.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei rym i ddarbwyllo llywodraeth y DG i wneud cais. Mae rheolau Cronfa Cydsafiad yr UE yn datgan yn glir fod yn rhaid cyflwyno ceisiadau yn ystod y cyfnod 10 wythnos yn dilyn dechreuad y trychineb. Byddai hyn yn ein cymryd hyd at yn gynnar ym mis Mawrth , felly mae’n rhaid i ni weithredu nawr.
"Mae gelyniaeth llywodraeth y DG tuag at yr UE a’i benderfyniad i beidio â cholli unrhyw ran o ad-daliad y DG yn atal Cymru rhag derbyn y cymorth a’r gefnogaeth gan yr UE y mae hawl iddi gael. Ers creu’r gronfa, mae 23 o wledydd Ewropeaidd wedi elwa gan fwy na £3 biliwn. Mae’n bryd rhoi anghenion ein cymunedau’n gyntaf."
Llun: Cyng Mark Strong, (Aberystwyth Gogledd), Mike Parker (Plaid Ceredigion), Jill Evans ASE, Cyng Alun Williams, (Aberystwyth Bronglais)