Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Chwefror 2014

Yr her fawr genedlaethol

Wrth gadeirio sesiwn yn seminar y Cenhedloedd sy’n Esblygu ym Mhrifysgol Abertawe, mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw ar Gymru i sicrhau fod gwerthoedd ac egwyddorion y genedl yn cael eu hamlinellu mewn cyfansoddiad ysgrifenedig er mwyn paratoi ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Trefnwyd y seminar ar y cyd rhwng Sefydliad Hunanaiethau Ewrop a Choleg y Gyfraith Abertawe.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar hunaniaeth a chyfansoddiadau. Soniodd siaradwyr o Gymru, Quebec, Yr Alban a Chatalwnia am y newidiadau cyfansoddiadol sydd ar droed, gyda refferenda ar annibyniaeth yn Yr Alban a Chatalwnia yn hwyrach eleni.

Dywedodd Jill Evans ASE: “Dymuna Plaid Cymru weld Cymru annibynol, a chanddi ei llais ei hun a’i phleidlais ei hun ar gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd sydd yn effeithio arnom.

"Pan fydd llywodraeth y DG yn pleidleisio ar ein rhan, nid pleidleisio dros fudd cenedlaethol Cymru y gwna, sydd yn wahanol iawn i fudd y Deyrnas Gyfunol.

"Cafodd hyn ei ddangos dro ar ôl tro, p’un a yw’n penderfynu ar y prif rhwydwaith drafnidiaeth neu ariannu ar gyfer yr ardaloedd tlotaf.

"Dymunwn gael newid yn yr Undeb Ewropeaidd. Dymunwn fasnachu a gweithio mewn partneriaeth gyda gwledydd eraill a dymunwn helpu adeiladu Ewrop mwy agored a democrataidd. 

"Dywedodd yr Athro Daniel Turp wrthym sut wnaeth y broses o lunio Cyfansoddiad Quebec helpu i ddiffinio hunaniaeth y genedl, a’i fod wedi ymddwyn fel drych i adlewyrchu eu cymdeithas.

"Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser maith am gyfansoddiad ysgrifenedig a Mesur Iawnderau.

"Nid rhywbeth yw hwn y dylid aros amdani hyd nes y daw annibyniaeth. Mae nifer o genhdloedd a rhanbarthau wedi mabwysiadu cyfansoddiadau eisoes.

"Mae angen i ni fynegi ein gwerthoedd a’n hegwyddorion: a chael gwir drafodaeth ynglŷn â’n gwerthoedd a’n hegwyddorion: gwir drafodaeth ynglŷn â’r math o genedl yr hoffem weld Cymru yn y dyfodol. Byddai’n her fawr genedlaethol."

Rhannu |