Mwy o Newyddion
Galw am weithredu ar incwm ffermydd
Bydd Plaid Cymru yn galw yr wythnos hon am weithredu ar incwm ffermydd mewn dadl yn y Cynulliad, ac y mae wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y gallai cyfuniad o ffactorau nas gwelwyd erioed o’r blaen beri dioddefiadau di-ben-draw yn y diwydiant amaethyddol.
Mae Gweinidog Amaeth cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi rhybuddio fod cwymp sylweddol yn incwm ffermydd, ynghyd a’r tywydd mawr eithafol diweddar, a newidiadau strwythurol trwy ddiwygio’r PAC, oll yn cyfrannu at bwysau anhygoel ar ffermio Cymreig. Bydd ergyd ychwanegol y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr uchafswm o 15% allan o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn gadael llawer busnes mewn perygl o fynd dan y don.
Ac y mae hyn oll yn digwydd ar adeg pan fo incwm ffermydd ar gyfartaledd ar draws pob sector wedi gostwng eisoes o 44%.
Meddai Gweinidog Amaeth cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd: “Mae’r rhain yn amseroedd heriol iawn i’r sector amaeth yng Nghymru sydd yn wynebu storm berffaith o bwysau ar incwm ffermydd.
“Mae incwm cyfartalog ffermydd eisoes wedi dioddef gostyngiad arswydus llynedd, ac y mae Plaid Cymru yn poeni nad yw diwygiadau’r PAC sy’n cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn gadael digon o amser i lawer o fusnesau fferm ymaddasu yn ariannol i’r sefyllfa newydd. Mae llawer o ‘nghydweithwyr yn y byd amaeth wedi dweud wrthyf eu bod yn wynebu mynd allan o fusnes oherwydd y cyfuniad o ffactorau sy’n effeithio ar eu ffermydd ar y funud.”
Ychwanegodd Mr Gruffydd, sydd yn byw ar fferm deuluol yn Sir Ddinbych: “Mae ffermwyr a gwleidyddion fel ei gilydd yn cytuno ar nod y Llywodraeth yn y tymor hwy o gael diwydiant gwytnach a mwy cynaliadwy. Ond rhaid i’r Gweinidog sylweddoli fod ar y diwydiant angen mwy o amser a help i ymaddasu – yn enwedig o gofio’r cyfuniad unigryw o ffactorau maent yn wynebu ar hyn o bryd.
“Byddwn ni fel Plaid Cymru yn ein dadl yn amlinellu rhai o’r camau yr ydym am i’r Llywodraeth gymryd am na allant achosi’r newid ar y raddfa bresennol a than yr amgylchiadau fel y maent ar hyn o bryd heb beryglu nifer o fusnesau amaethyddol.
"Mae hwn yn gyfnod anodd i’n heconomi gwledig a’r unig ffordd i oresgyn yr her yw trwy gefnogaeth a chydweithrediad y llywodraeth.”