Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2014

Bwrdd Iechyd yn gwahardd llawdriniaethau dros dro, os nad ydynt yn llawdriniaethau brys

Ddoe, dywedodd y gwasanaeth gwarchod iechyd i ogledd Cymru pa mor siomedig ydoedd am benderfyniad rheolwyr y bwrdd iechyd i wahardd llawdriniaethau dros dro, os nad ydynt yn rhai brys, yn y tri phrif ysbyty - Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru: “Rwyf wedi fy synnu ac yn siomedig o glywed am y penderfyniad hwn, yn enwedig gan nad oedd CIC wedi cael unrhyw rybudd ymlaen llaw am hyn.

"Mae CIC wastad wedi holi’r bwrdd iechyd yn drylwyr am ei gynlluniau i gael newidiadau dros dro pe byddai’r pwysau ar wasanaethau yn cynyddu, ac fe wnaeth yn glir os y byddai angen gwneud cynlluniau o’r fath yn y dyfodol yna dylai’r bwrdd roi gwybod i ni am y newidiadau a hynny gymaint â phosib ymlaen llaw.”

”Rwyf wedi gofyn i’r bwrdd iechyd am ragor o wybodaeth am y penderfyniad hwn ac am y galw ar wasanaethau meddygol brys ar draws gogledd Cymru. Mae’n bryderus fod dim o’r achosion ‘arferol’ sy’n achosi lefel uchel o dderbyniadau brys yn yr ysbyty – fel tywydd rhewllyd sy’n achosi pobl i faglu a syrthio; ffliw a heintiadau anadlu eraill - yn ffactor yma.

"Byddwn yn gofyn am gynllun manwl i sicrhau fod y gwahardd dros dro yma o lawdriniaethau sydd wedi’u cynllunio, yn cael ei godi yn y dyfodol agos iawn – nid yw addewid i gadw’r mater dan adolygiad yn ddyddiol yn ddigon da.”

Aeth Mr Ryall-Harvey rhagddo i ddweud: “Mae hi’n anffodus i gleifion a’u teuluoedd fod gwahardd dros dro o wasanaethau yn digwydd bob gaeaf.

"Gallai oedi mewn llawdriniaeth a gynlluniwyd olygu bod y cyflyrau hyn yn dod yn achosion brys ac rwyf yn bryderus bod cost gwirioneddol o ran y boen, y dioddef a’r poeni i’r cleifion hynny fydd a’u llawdriniaethau yn cael eu hoedi.

"Rydym eisiau i'r bobl hynny sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad yma i roi gwybod i ni am unrhyw broblemau y cânt o’r herwydd.

”Bydd CIC yn lleisio ei bryderon sylweddol am effaith posib y newidiadau hyn ar gleifion, boed yn rhai dros dro ai peidio, ac yn parhau i fonitro effaith y newidiadau ar draws gogledd Cymru. Mae CIC yn cefnogi cynllun y bwrdd iechyd i gynnal adolygiad brys i sefydlu sut mae’r sefyllfa hon wedi datblygu mor sydyn a beth y gellid ei wneud i sicrhau nad yw’n ddigwyddiad rheolaidd.”

Rhannu |