Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2014

£90,000 o hwb i’r Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y byddai £90,000 yn ychwanegol yn cael ei neilltuo i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni er mwyn ei galluogi i roi ar waith nifer o’r argymhellion a wnaed gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Grŵp sy’n sôn am ffyrdd y gall yr ŵyl genedlaethol foderneiddio a chreu mwy o effaith.

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod o dan gadeiryddiaeth Roy Noble yn dilyn Eisteddfod 2012. Gofynnwyd i’r Grŵp ystyried lleoliad yr Eisteddfod yn y dyfodol, ei hapêl i ymwelwyr newydd a sut y gellid denu mwy o niferoedd drwy’r clwydi.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn falch o gael derbyn pob un o’r argymhellion mewn egwyddor ac y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gamau gweithredu y gellid eu cymryd. Bydd angen ystyried ymhellach rai o’r argymhellion oherwydd eu goblygiadau ariannol.

Ymhlith yr argymhellion sydd yn yr adroddiad, mae’r argymhelliad y dylai’r ŵyl barhau i deithio i wahanol ardaloedd yng Nghymru bob blwyddyn, y dylai’r Eisteddfod greu cynllun i ddenu mwy o wirfoddolwyr ifanc a hefyd yr argymhelliad ei bod yn sefydlu Grŵp o arbenigwyr i greu Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o gonglfeini’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. O’r diwrnod y bydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi y bydd yn ymweld ag ardal benodol, mae ‘na gyffro a chyfle i bobl o bob oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn eu cymuned leol.

“Aethon ni ati i sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn cael gwybod beth oedd barn y bobl, clywed am yr opsiynau gorau i ehangu apêl yr ŵyl a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Mae’r argymhellion sydd yn yr adroddiad yn rhai rhesymol ac yn cynnig gweledigaeth glir ar sut y gall yr Eisteddfod ddatblygu a moderneiddio.

“Byddwn ni nawr yn gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod wrth iddyn nhw ystyried sut i ymateb i’r argymhellion.”

Rhannu |