Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2014

Tystiolaeth yn tynnu sylw at landlordiaid gwael

Mae tystiolaeth newydd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru wedi tynnu sylw at gyflwr gwael y cartrefi y mae rhai landlordiaid yn eu gosod i denantiaid.

Ymysg y problemau a amlygwyd roedd anallu landlordiaid i ymdrin â phroblemau fel lleithder, llwydni, diffyg dŵr poeth, problemau carthffosiaeth a diffyg gwres. Mewn rhai achosion mae hyn wedi effeithio’n uniongyrchol ar iechyd a lles tenantiaid, ac mae rhai wedi dioddef salwch hirdymor o’r herwydd.

Nid yw rhai landlordiaid yn cyflawni rhwymedigaethau eu contract ychwaith. Cafwyd enghraifft lle dywedodd landlord wrth ei denantiaid fod llawr uchaf eu tŷ yn cael ei ddefnyddio at ddibenion storio yn unig er bod tenant arall yn byw yno mewn gwirionedd a oedd yn defnyddio’r cyfleusterau a gâi eu rhannu.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Carl Sargeant: “Er bod y rhan fwyaf o landlordiaid y sector rhentu preifat yn rhoi gwasanaeth da i’w tenantiaid mae cyfran ohonynt yn rhoi gwasanaeth sydd dipyn yn is na’r disgwyl. Mae’r landlordiaid hyn yn rhoi enw gwael i landlordiaid eraill.

“Mae rhai o’r straeon erchyll y mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru wedi’u nodi yn dangos sut y gall landlordiaid gwael gael effaith mor ddifrifol ar denantiaid. Mae’r arferion peryglus a brawychus yn ail-bwysleisio’r angen i newid y system er mwyn mynd i’r afael â’r landlordiaid na ddylent fod yn rhan o’r sector.

“Bydd Bil Tai arfaethedig Llywodraeth Cymru, ymysg pethau eraill, yn ei gwneud hi’n orfodol i bob landlord o fewn y sector rhentu preifat gofrestru.  Bydd hyn yn sicrhau bod pob landlord yn atebol am yr hyn a wna a bydd yn helpu i sicrhau bod y sector yn cael ei reoleiddio’n well. Y nod yw diogelu tenantiaid rhag landlordiaid gwael.”

Dywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru Stephanie Lloyd: “Mae’r straeon erchyll hyn yn rhan o restr hir o achosion gwael yr ydym yn ymwybodol ohonynt. Erchyll yw clywed sut y mae rhai landlordiaid yn darparu gwasanaeth mor wael.

“Golyga’r ffaith nad yw’r farchnad wedi’i rheoleiddio y gall myfyrwyr wynebu telerau annheg a hefyd safonau gwael o ran gwasanaethau gan eu landlordiaid.

“Mae angen i fyfyrwyr sy’n denantiaid - ac yn wir bob tenant - gael eu diogelu rhagor. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu sicrhau hyn.”

Llun: Carl Sargeant

Rhannu |