Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2014

Awdurdodau lleol angen cefnogaeth i unioni pethau wedi dinistr y llifogydd

Wrth i drefi arfordir Cymru geisio cael pethau’n ôl i drefn wedi’r llifogydd enbyd a ddigwyddodd ddechrau Ionawr, mae Plaid Cymru wedi amlinellu camau pellach sydd angen eu cymryd i amddiffyn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol.

Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Llyr Gruffydd, wedi galw ar Lywodraeth y DG i adolygu eu penderfyniad i wrthod rhoi arian trwsio Ewropeaidd brys i ardaloedd yng Nghymru sydd wedi dioddef gorlifo.

Dylai Llywodraeth y DG dan arweiniad y Ceidwadwyr wrando ar alwadau ASE Torïaidd a gwneud cais am gyllid brys Ewropeaidd i dalu am y difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar, meddai.

Galwodd unwaith eto ar i Lywodraeth Cymru sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru i weithio gyda chymunedau i leihau’r perygl i lifogydd, ac i ffermwyr a thirfeddianwyr gael y grym i gynnal glannau afonydd ar eu tir i helpu i atal llifogydd.

Meddai Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Llyr Gruffydd: “Mae llifogydd a digwyddiadau tywydd eithafol eraill yn digwydd yn amlach fyth yng Nghymru, ac y mae’n rhywbeth y dylem fod yn llawer mwy parod ar eu cyfer. Dyna pam fy mod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Fforwm Llifogydd i weithio gyda chymunedau i baratoi am lifogydd.

“Mae hefyd yn bryd i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl DEFRA sydd wedi sefydlu saith cynllun peilot ar hyd a lled Lloegr. Fe fyddant yn rhoi cyfle i ffermwyr, tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol ac amgylcheddol fod yn rhan o benderfyniadau am ddyfodol cynnal afonydd ac amddiffynfeydd rhag  llifogydd yn eu hardal. Mae DEFRA hefyd wedi lleihau biwrocratiaeth yn yr ardaloedd peilot hynny i’w gwneud yn haws i ffermwyr a thirfeddianwyr gynnal afonydd eu hunain lle maent yn dewis gwneud hynny.

“Pan fo llifogydd yn digwydd, maent yn creu difrod ac yn peri loes, fel y gwelsom dros yr wythnosau diwethaf ar hyd a lled Cymru. Mae’r difrod a achoswyd gan lifogydd mis Ionawr yn mynd ymhell y tu hwnt i adnoddau awdurdodau lleol bach, ac y mae penderfyniad Llywodraeth y DG i beidio hyd yn oed a gwneud cais am gyllid brys Ewropeaidd i helpu i dalu am waith trwsio felly yn anghyfiawn.

“Mae Plaid Cymru yn dweud yn glir na ddylid gadael trefi arfordir Cymru ar drugaredd ein moroedd a’n hafonydd. Bydd buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd yn awr yn lleihau costau tebygol difrod stormydd yn y dyfodol. Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi gwneud yr achos dros i lywodraethau ar bob lefel ymchwilio i bob dewis am help wedi stormydd, ac yr wyf yn annog gwleidyddion ym mhob sefydliad i wrando ar yr alwad honno.”

Meddai AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas, sydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau: “Does dim rheswm pam na all Llywodraeth y DG wneud cais am grant o Gronfa Gefnogaeth yr UE. Mae llywodraeth Gogledd Iwerddon eisoes wedi gwneud cais am grant o’r gronfa i ddelio â’r difrod a achoswyd gan stormydd y mis hwn. Aeth Llywodraeth y DG at y gronfa yn 2007 i helpu i dalu am y difrod a achoswyd gan lifogydd yn ne-ddwyrain Lloegr. Dylai Llywodraeth Cymru felly roi cymaint o bwysau ag sydd modd ar Lywodraeth y DG i helpu’r awdurdodau mewn ardaloedd yng Nghymru sydd wedi dioddef yn sgil llifogydd i wynebu’r her enfawr sydd o’u blaenau.”

Rhannu |