Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2014

Ymweliad â chanolfan newydd eiconig Pontio

Heddiw (dydd Iau) bydd y Gweinidog Cymreig dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths AC, yn ymweld â safle Pontio ym Mhrifysgol Bangor.     

Bydd Mr Griffiths yn mynd ar daith o amgylch y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi, a fydd yn agor ym Medi 2014, yng nghwmni Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes.  

Bydd Mr Griffiths yn cael gweld y gwaith a wnaed eisoes ar y Ganolfan bum llawr a fydd yn cynnwys theatr o faint canolig (Theatr Bryn Terfel), theatr stiwdio, sinema, canolfan dylunio ac arloesi, Undeb y Myfyrwyr, ystafelloedd darlithio helaeth, mannau dysgu cymdeithasol, bwyty, bar, caffi a nifer o elfennau eraill. 

Meddai John Griffiths AC: “Dwi'n falch iawn o'r cyfle i ymweld â safle Pontio - project a fydd yn hwb mawr iawn i'r celfyddydau yn y rhanbarth yn ogystal ag i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Fangor i weld yr adeilad gorffenedig a gweld rhai o'r digwyddiadau gwych y bwriedir eu cynnal ynddo.  Mae’r project yma’n fuddsoddiad enfawr ym Mangor a gall pawb fod yn wirioneddol falch o gael darpariaeth o'r math yma yn y ddinas.”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: "Gyda llai na blwyddyn i fynd nes byddwn yn agor, mae gweithgaredd ar y safle ac yn y gymuned yn prysuro yn barod at ein tymor agoriadol cyffrous o ddigwyddiadau artistig. Bydd Pontio'n ganolbwynt i'r gymuned leol ac i'r Brifysgol fel ei gilydd - lle i gyfarfod, bwyta, dysgu, a chael ein diddanu a'n haddysgu.”

Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio: “Bydd y theatrau a'r sinema yn y ganolfan yn gartref i amrywiaeth eang o gelfyddyd - o ddrama a dawns i gomedi a ffilm, o sioeau syrcas trawiadol i gigs bach a mawr, ac o opera siambr i gerddoriaeth arbrofol a byd-eang.  Bydd yn ganolbwynt i ddoniau lleol a bydd yn cynnig profiadau celfyddydol o'r ansawdd uchaf o Gymru, gwledydd eraill Prydain ac o bob rhan o'r byd.” 

Rhannu |