Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Ebrill 2011
Karen Owen

Codi nyth cacwn

MAE dau Gymro ar-lein wedi codi dwy nyth cacwn yn eu pennau wrth drafod gwahanol agweddau ar y diwylliant Cymraeg yr wythnos hon.

Y cyntaf i godi gwrychyn siaradwyr Cymraeg a chefnogwyr yr iaith oedd cyn-gyfreithiwr a nofelydd o Abertawe o’r enw Julian Ruck. Ar Fawrth 17 y dechreuodd y miri gyntaf un, pan gyhoeddodd ar ei flog ei fod wedi camu ar y trên anghywir yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw “oherwydd yr iaith Gymraeg”.

Wrth geisio egluro’r gosodiad, aeth yn ei flaen i ddweud fod cyhoeddiadau dwyieithog yr orsaf – lle clywid iaith sydd bellach “ddim yn angenrheidiol” fel “twrci’n cael ei dagu” ar yr uchel seinydd – a bod hynny wedi ei ddrysu’n llwyr ac wedi gwneud iddo ddewis y platfform anghywir a methu dal ei drên.

Merch fferm ac aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith ydi’r llall sydd wedi creu helyntion ym maes yr e-drafod Cymraeg yr wythnos hon. Nos Lun, tra’r oedd hoelion wyth y Sîn Roc Gymraeg yn trafod dyfodol canu Cymraeg ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru, roedd Heledd Melangell Williams yn gofyn y cwestiwn rhethregol, “pwy wnaeth lofruddio’r Sîn Roc Gymraeg?” ar ei blog hithau.

Aeth yn ei blaen i gynnig fel ateb mai cyfalafiaeth sy’n gyfrifol – hynny, a’r ffaith bod bandiau Cymraeg yn gwrthod chwarae am ddim a chefnogi mentrau lleol.

Llun: Julian Ruck

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |