Mwy o Newyddion
Neuadd hanesyddol y Ddinas yn cynnal cyfarfod cyntaf y Cyngor Llawn ers degawd
Cynhaliodd cynghorwyr Abertawe brif gyfarfod y cyngor yn Neuadd hanesyddol y Ddinas ddoe (dydd Mawrth 21 Ionawr) am y tro cyntaf ers mwy na degawd.
Mae'r symud yn dilyn ailwampio'r adeilad 80 oed i fynd i'r afael â materion cynnal a chadw, dod ag ef yn ôl i'w ogoniant blaenorol a'i wneud yn addas at ddefnydd modern a llogi allanol.
Mae angen symud oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Siambr y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig dros yr wythnosau nesaf y mae ei angen cyn y gellir ystyried yn derfynol unrhyw waith gwella yn y dyfodol.
Meddai'r Cyng. Christine Richards, Aelod y Cabinet dros Gynnwys Dinasyddion a'r Gymuned a Democratiaeth, "Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Abertawe, fel awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, sicrhau bod ein cyfarfodydd mor hygyrch ag y bo modd ar-lein trwy weddarlledu ein cyfarfodydd.
"Wrth gwrs, byddai'n well gan y cyngor symud ei gyfarfodydd yn ôl i hen siambr restredig a phrydferth Neuadd y Ddinas bob tro a bydd y symud yn ein galluogi i weld yr hyn a allai fod yn bosibl yn Neuadd y Ddinas ac a yw'n gallu diwallu ein hanghenion democratiaeth leol yn yr 21ain ganrif.
"Os nad yw Neuadd y Ddinas yn gallu diwallu'r anghenion hynny, efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried siambr y Ganolfan Ddinesig eto. Fodd bynnag, nid yw'r cyngor o gwbl yn ymrwymedig i gynllun yn y Ganolfan Ddinesig gan mai Neuadd y Ddinas yw ein dewis cyntaf.
Ychwanegodd, "Gobeithio hefyd y bydd y cyfarfod yn Neuadd y Ddinas yn ein galluogi i arddangos y cyfleusterau newydd a gobeithio y bydd yn lleoliad deniadol ar gyfer sefydliadau, grwpiau a llogwyr hefyd."
Er mwyn diwallu anghenion modern, mae'n rhaid bod gan Gyngor Abertawe leoliad i gyfarfod fel Cyngor Llawn y mae ganddo'r dechnoleg i alluogi presenoldeb o bell, mynediad modern i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, digon o seddi yn yr oriel gyhoeddus, goleuadau addas, system sain well a'r cyfle i gyflwyno pleidleisio electronig.
Hefyd, gellid darparu gwelliannau ychwanegol megis dolenni fideo a sain yn yr ystafelloedd pwyllgor, yn ogystal â mannau gorlifo, a gellid darparu Wi-Fi.