Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2014

Cymdeithas yr Iaith yn galw am dynnu hysbyseb swydd yn ôl

Mewn llythyr at swyddogion Cyngor Sir Benfro mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu hysbyseb swydd oedd yn dweud ei fod yn ffeithiol anghywir ac yn sarhad ar y Gymraeg a phobl Sir Benfro.

Roedd yr hysbyseb yn dweud fod y Gymraeg yn iaith gyntaf mewn rhannau o Ogledd Penfro yn unig ac yn cynnig fod modd i weithwyr ddysgu rhai brawddegau Cymraeg fel mater o gwrteisi.

Dywedodd aelod lleol o'r Gymdeithas yn Sir Benfro, Gwyndaf Tomos: "Mae'n warthus bod y Cyngor wedi dweud y fath beth.

"Ydi'r Cyngor yn awgrymu nad oes angen i blant yn Ne y Sir gael gofal a chefnogaeth yn Gymraeg? Nid iaith ar gyfer rhannau o'r Gogledd yw'r Gymraeg - ond iaith ar gyfer yr holl sir. Yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a phobl sydd yn dymuno gallu byw drwy'r Gymraeg.

"Sut gallwn ni gymeryd y Cyngor o ddifrif yn unrhyw beth os dyma yw eu hagwedd tuag at y Gymraeg? Mae'n rhoi'r argraff fod y Cyngor yn ystyried y Gymraeg yn ddim mwy na mater o gwrteisi sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ambell i frawddeg.”

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n galw ar y Cyngor Sir i dynnu'r hysbyseb yma yn ôl yn syth ac i ail hysbysebu'r swydd gan ofyn bod y Gymraeg yn hanfodol - ac yn mynnu fod Arweinydd y Cyngor a llefarydd y Cabinet ar y Gymraeg yn cyfiawnhau fod y fath hysbyseb wedi cael eu caniatâd yn y lle cyntaf."

Ychwanegodd Bethan Williams, Swyddog Maes y Gymdeithas yn yr ardal: “Wrth i ni lunio Siarter iaith ar gyfer y sir un o'n galwadau ar y Cyngor i'w weithredu yn syth yw bod swyddi newydd ble mae aelod o staff ymwneud â'r cyhoedd, yn nodi fod y Gymraeg yn hanfodol.

"Mae cyfle yma i'r Cyngor ddangos eu bod nhw'n cymryd y Gymraeg o ddifrif, drwy dynnu'r hysbyseb yn ôl a gofyn bod y Gymraeg yn hanfodol.

“Dylai strategaeth Llywodraeth Cymru, “Mwy na Geiriau” fod y cynnig arweiniad yn hynny o beth, a datgan yn glir bod gwasanaethau gofal yn Gymraeg yn hanfodol i sicrhau gwasanaeth o ansawdd da.”

Rhannu |