Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Dim arian loteri ar gael i achub Parc Howard

Aflwyddiannus fu'r cais am £5 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddiogelu plasty Parc Howard a'r tiroedd o'i amgylch i'r dyfodol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynegi ei siom ynghylch bod y cais yn aflwyddiannus. Bellach mae swyddogion y Cyngor yn trefnu cyfarfod adborth gyda swyddogion Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda golwg ar gael gwedd gliriach ar y rhesymau dros wrthod y cais.

Bu chwe mis o oedi cyn cyflwyno'r cais ym mis Awst a hynny er mwyn cael amser ar gyfer rhagor o ymgynghori gan nad oedd cefnogaeth 100 y cant i'r cais, ac yr oedd hynny'n peryglu dyfodol y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio: “Mae'r newyddion hwn yn destun siom anferth inni. Ar ben hynny mae'n tanlinellu pa mor bwysig yw hi ein bod ni i gyd yn gytûn o ran ein hymgyrch i ddiogelu Parc Howard i'r dyfodol, a bod gennym gynllun economaidd sy'n dal dŵr.

“Os na allwn newid y modd y mae'r parc yn gweithio, fe allem gael ein gorfodi i'w gau.

“O ystyried bod adnoddau'r awdurdod yn prinhau ac o gofio nad yw Parc Howard, na holl wasanaethau hamdden eraill y Cyngor, yn gyfrifoldeb statudol, mae'n bosibl y bydd arnom angen cael cyllid gan rywun arall er mwyn dal ati i gynnal y parc."

Cafodd y Cyngor gefnogaeth wych gan Gymdeithas Parc Howard a Chyfeillion Amgueddfa Parc Howard wrth ddatblygu'r cais am gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gwaetha'r modd roedd nifer bychan o wrthwynebwyr wedi cyfrannu at yr anghytundeb llwyr presennol, yn enwedig ynghylch materion parcio ceir - a oedd yn elfen gwbl hanfodol o ran gallu rhoi'r cynlluniau ar waith mewn modd cynaliadwy.

Rhannu |