Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Llywodraeth yn methu'r prawf cyntaf yn ôl Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod y Llywodraeth wedi methu'r cyntaf o chwe phrawf a osodwyd i weld a oeddent o ddifri dros hybu'r Gymraeg yn wyneb canlyniadau trychinebus y Cyfrifiad.

Yr haf diwethaf, rhoddodd y Gymdeithas gyfle i'r Llywodraeth weithredu ar 6 o ofynion a fyddai'n dangos ymrwymiad i sicrhau lle'r Gymraeg yn ein cymunedau erbyn Chwefror 1af.

Cynhelir cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol y Gymdeithas yn Aberystwyth Ddydd Sadwrn yma i benderfynu a yw'r llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol neu a oes angen cychwyn ymgyrch o ddwyn pwysau gweithredol arni er mwyn gwireddu dyhead pobl Cymru i fyw yn Gymraeg.

Ond dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg fod y llywodraeth eisoes wedi methu'r prawf cyntaf.

Dywed Ffred Ffransis: "Galwodd y Gymdeithas ar y llywodraeth i chwyldroi'r drefn addysg i sicrhau fod pob disgybl yn datblygu'r sgil i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg, ac fe roddon ni'r cyfle ymarferol i gyflawni hyn trwy gyfrwng yr adolygiad cwricwlwm cyfredol. Mynnon ni fod y llywodraeth yn ystyried y mater tan Gam 1 yr Adolygiad sy'n ymwneud a hybu llythrennedd a chyfathrebu.

"Ond yr ydym wedi derbyn llythyr gan y gweinidog Huw Lewis i'n hysbysu na bydd y llywodraeth yn edrych ar yr angen i chwyldroi "Cymraeg Ail Iaith" yn y rhan gyntaf o'r adolygiad gan ei fod "yn awyddus i dreulio amser" yn ystyried hyn.

"O ganlyniad, ni chaiff y mater ystyriaeth ddifrifol am flwyddyn arall tan Gam 2 Adolygiad y Cwricwlwm. Wrth geisio hybu llythrennedd a sgiliau cyfathrebu, mae'n warthus nad yw'r llywodraeth yn sicrhau bod mwyafrif ein pobl ifainc yn dod yn llythrennog ac yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg."

Ychwanegodd Robin Farrar: “Byddai datganiad syml a chlir gan y Llywodraeth eu bod am sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn dangos eu bod am helpu pobl i fyw yn Gymraeg. Dyna pam mae hwn yn un o chwe phrif galwad y Gymdeithas.

"Ond dyma'r cadarnhad cyntaf nad yw'r llywodraeth am roi blaenoriaeth i dwf y Gymraeg.

"Nid Cymdeithas yr Iaith yn unig sydd wedi galw am hyn - mae'r gefnogaeth i'r alwad yma yn cynnwys adroddiad yr Athro Sioned Davies i'r llywodraeth, "Un iaith i bawb", sydd hefyd yn galw ar y llywodraeth i drin y mater ar frys.

"Bydd yn rhaid i ni ystyried Ddydd Sadwrn ai dyma batrwm ymatebion y llywodraeth i argyfwng yr iaith mewn meysydd eraill hefyd. Mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn oedi o hyd, a heb deall natur brys sefyllfa'r Gymraeg." 

Llun: Ffred Ffransis

 

Rhannu |