Mwy o Newyddion
Gweithlu’r sector cyhoeddus yn gweithredu mewn partneriaeth
Mae Gweinidogion wedi cyfarfod ag arweinwyr y gwasanaethau cyhoeddus a’r undebau llafur yng Nghymru i drafod dull cyffredin o reoli materion y gweithlu sy’n dod yn sgil yr hinsawdd ariannol ddyrys y mae’r sector cyhoeddus yn ei brofi ar hyn o bryd.
Bu rhanddeiliaid allweddol o’r sector cyhoeddus mewn cyfarfod oedd yn cynnwys Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Lesley Griffiths a’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, yn ogystal â chynrychiolwyr o CLlLC, TUC Cymru a’r sector iechyd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Fel y gŵyr pawb ohonom sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’r setliad cyllido a drosglwyddwyd o San Steffan yn un heriol iawn. Wrth inni ddelio â’r materion sy’n dod yn sgil yr hinsawdd ariannol dyrys hwn, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu mewn dull cyffredin.
“Yma yng Nghymru, rydyn ni’n cydnabod mai gweithlu’r sector cyhoeddus yw ein hased mwyaf yn y gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam ei bod yn bwysig i gynrychiolwyr o gyrff allweddol ddod ynghyd i drafod sut y gallwn gydweithio i liniaru’r effeithiau ar ein gweithlu a sicrhau bod ganddynt y cymorth a’r sicrwydd i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn fwy effeithiol ac effeithlon, ac yn canolbwyntio ar y dinesydd, gan fanteisio ar ymrwymiad ac ymroddiad gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol: “Rydyn ni’n ffodus i gael staff rheng flaen yn ein Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n hynod o ymroddedig. Maen nhw’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n cynnwys ffyrdd a sbwriel, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, yn ogystal ag addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cyfnod anodd o’n blaenau o safbwynt ariannol, ac mae angen dulliau dyfeisgar ac arloesol er mwyn gwella gwasanaethau yn ogystal â gwneud arbedion ariannol. Mae cefnogi’r gweithlu drwy’r newidiadau hyn yn hanfodol bwysig, felly mae dod â rhanddeiliaid ynghyd i rannu eu gwybodaeth, arbenigedd a syniadau yn y maes hwn yn brofiad gwerthfawr iawn.”