Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Y Groes Goch yn chwilio am wirforddolwyr

Mae gwasanaeth sy’n lleihau ynysiad cymdeithasol ac unigrwydd yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr.

Mae’r Groes Goch Brydeinig yn annog pobl sy’n chwilio am her newydd i roi ychydig o oriau yr wythnos i wasanaeth sy’n cefnogi unigolion bregus ac unig ar draws Gogledd Cymru.

Mae Gofal, a gaiff ei gomisiynu gan Y Gronfa Loteri Fawr, yn wasanaeth cyfeillio a galluogi i bobl dros 50 oed. Mae gwirfoddolwyr yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod penodol, yn eu helpu i daclo unigrwydd ac yn annog cyfleon i gymdeithasu drwy eu rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau a grwpiau cymdeithasol yn eu cymunedau lleol.

Mae’r gwasanaeth angen mwy o wirfoddolwyr Cymraeg a Saesneg ar frys i sicrhau fod y cymorth gorau yn cael ei roi i aelodau bregus ein cymunedau. Gall tasgau olygu rhoi annogaeth a chynnig cwmnïaeth neu helpu’r unigolion i ymuno â gweithgaredd neu glwb  cymdeithasol.

Dywedodd Sue Whalley, Uwch Arweinydd Tîm Gofal: “Yn anffodus, mae unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol yn effeithio’n fawr ar aelodau hŷn ein cymunedau. Mae’r gwasanaeth yma yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl nad oes ganddynt deulu na ffrindiau i ddibynu arnyn nhw, i deimlo’n fwy hyderus i barhau i fyw’n annibynnol a datblygu cysylltiadau cymdeithasol yn eu cymunedau.

Rydym yn clywed canmoliaeth yn rheolaidd am ein gwasanaeth gan y bobl yr ydym yn eu helpu. Mae ein gwirfoddolwyr wir yn gwneud gwahaniaeth a teimlant hwythau fod y gwaith yn hynod o wobrwyol hefyd.

Mae angen gwirfoddolwyr i ymweld yn rheolaidd â phobl sydd mewn angen. Dylai’r gwirfoddolwyr allu rhoi dwy i dair awr yr wythnos am 12 wythnos i bob person y maent yn eu helpu. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael ei roi yn ystod y cyfnod gwirfoddoli ac ad-daliadau am gostau teithio.

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9am – 5pm. Mae ein holl wirfoddolwyr yn cael gwiriad DBS.

Am ragor o wybodaeth am wasanaeth Gofal., neu os ydych â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, cysylltwch â’r tîm ar 01745 828 360 neu e-bostiwch GofalNorthWales@redcross.org.uk

Rhannu |