Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Rhybudd ar ôl y stormydd

Mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio pobl y sir i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag lladron sy'n dwyn trwy tynnu sylw pobl a rhag masnachwyr twyllodrus sy'n barod i ddal ar eu cyfle, yn enwedig yn sgil y tywydd stormus yn ddiweddar.

Mae'n bosibl fod cartrefi pobl wedi eu difrodi yn ystod y tywydd gwael.

Bellach mae'r Swyddogion Safonau Masnach yn annog pobl y sir i fod yn wyliadwrus iawn o werthwyr sy'n curo ar eu drysau gan gynnig gwneud gwaith iddynt ond a allai fod yn dwyllwyr.

Yr anogaeth i bobl sy'n chwilio am grefftwyr i wneud gwaith atgyweirio yw bod yn ofalus iawn wrth ddewis rhywun i wneud y gwaith, a bod yn wyliadwrus dros ben o werthwyr sy'n galw heibio gan gynnig eu gwasanaeth.

Bydd unrhyw grefftwr gonest yn ddigon parod i alw eto, gan roi cyfle ichi gadarnhau bod y crefftwr yn un dilys. Os byddwch yn cytuno i gael gwaith (sy'n costio mwy na £35) wedi ei wneud yn eich cartref, dylech hefyd gael hawliau ysgrifenedig i newid eich meddwl ac i ganslo'r gwaith.

Dywedodd Roger Edmunds, Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach: “Mae'n bosibl fod ar bobl yn Sir Gaerfyrddin angen cael gwaith atgyweirio wedi ei wneud ar frys, a'r demtasiwn fawr yw derbyn y cynnig cyntaf. Ein cyngor yw holi sawl crefftwr ynghylch y gwaith, a chael o leiaf 2 neu 3 dyfynbris ysgrifenedig. Peidiwch byth â rhoi unrhyw arian cyn i'r gwaith gael ei wneud.

“Dewis arall yw cyflogi crefftwr rydych yn ei adnabod neu sydd wedi ei argymell gan gyfaill neu gymydog. Os oes arnoch angen rhywun i wneud mân atgyweiriadau gallwch gael gwybodaeth am y Cynllun Masnachwyr Cofrestredig (Tasgmyn a Garddwyr) drwy fynd i'r wefan gorfforaethol sef www.sirgar.gov.uk neu drwy gysylltu â Viv Jones (01

Rhannu |