Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Recriwtio ar gyfer y Fyddin

Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymweld â chlinig recriwtio ar gyfer y Fyddin wrth Gefn.

Galwodd y Cynghorydd Kevin Madge yn y clinig newydd a gynhelir ar fore Llun yng Nghanolfan Byd Gwaith Rhydaman.

Mae'r Sarsiant Mark Rees a'r Is-gorpral Clayton Gibbons o Sgwadron 224 Iwmoniaeth Penfro yng Nghaerfyrddin yn cynnal clinigau wythnosol o 9.30am tan 12.30pm.

Esboniodd y Sarsiant Rees y gallai pobl ddi-waith dreulio hyd at 16 awr yr wythnos yn filwyr wrth gefn heb golli eu hawl i fuddion a chael cyfle i ddysgu sgiliau defnyddiol.

Dywedodd: “Rydym wedi sefydlu'r clinig er mwyn inni ddarparu ar gyfer y gymuned. Rydym yn recriwtio pobl o 18 i 42 oed ar gyfer y Fyddin wrth Gefn, sef y Fyddin Diriogaethol wedi'i hail-frandio.

“Gallwn ni gynnig cyfle i chi gael eich talu am ennill eich trwydded yrru ar gyfer car, lori neu fforch godi."

Dywedodd Chris Clark, Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Rhanbarth De-orllewin Cymru: “Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio'n agos gyda swyddogion recriwtio'r Lluoedd Arfog er mwyn helpu ein cwsmeriaid lleol. Mae gan bob swyddfa swyddog cyswllt lluoedd arfog i ddarparu cyngor ac arweiniad.

“Maent yn gallu ennill llawer o sgiliau y gellir eu trosglwyddo ac y gellir eu cynnwys yn eu CV i gael cyfleoedd gwaith pellach."

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge: “Mae'r clinig newydd yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod mwy am y Fyddin wrth Gefn a phenderfynu a oes diddordeb ganddynt mewn ymuno â hi.

“Mae'r swyddogion recriwtio a swyddog cyswllt y Ganolfan Byd Gwaith yno i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl ynghylch beth yw'r cyfleoedd a'r ymrwymiadau."

Rhannu |