Mwy o Newyddion
Dweud eich dweud am gasgliadau ail-gylchu a gwastraff
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd trigolion y sir i rannu eu barn am sut gall y Cyngor annog mwy o drigolion i wneud defnydd llawn o’r gwasanaeth ail-gylchu a chompostio wythnosol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno sawl gwasanaeth newydd i annog trigolion i ailgylchu a chompostio. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaeth bocs glas ailgylchu wythnosol, gwasanaeth casglu binau brown gwastraff bwyd wythnosol a rhwydwaith sirol o ganolfannau ailgylchu cymunedol.
Mae'r Cyngor nawr yn ystyried mesurau pellach i roi hwb i gyfraddau ailgylchu a chompostio’r sir am dri phrif reswm:
· i leihau’r effaith negyddol ar ein hamgylchedd
· i leihau costau i’r Cyngor gan fod ailgylchu a chompostio yn rhatach na chladdu mewn safleoedd tirlenwi
· er mwyn osgoi dirwyon a chostau sylweddol gan y Llywodraeth am gladdu sbwriel mewn safleoedd tirlenwi ac am fethu targedau ailgylchu a chompostio cenedlaethol.
Fel yn achos holl gynghorau Cymru ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Gyngor Gwynedd ailgylchu neu gompostio lleiafswm o 52% o’r holl wastraff sydd yn cael ei gasglu o’n cartrefi. Bydd y lleiafswm hwn yn cynyddu i 58% erbyn Mawrth 2016, ac yn parhau i gynyddu o hynny allan.
Er mwyn cyrraedd y targedau hyn mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd nawr ystyried mesurau ychwanegol i annog llawer mwy ohonom i ailgylchu a chompostio ein gwastraff.
Dywedodd Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Roberts: “Nid yw methu a chyrraedd y targed yn opsiwn gan y byddai’n golygu bod rhaid i Gyngor Gwynedd a Threthdalwyr Cyngor Gwynedd dalu cosbau ariannol enfawr i Lywodraeth Cymru o mor gynnar â 2015.
“Rydym yn amcangyfrif os bydd ein perfformiad ailgylchu a chompostio gwastraff bwyd yn parhau ar y lefel presennol, y bydd Cyngor Gwynedd yn wynebu dirwy o oddeutu £1 miliwn yn 2015/16, a chosbau hyd yn oed llymach mewn blynyddoedd i ddod.”
Ni all Cyngor Gwynedd fforddio i dalu cosbau ariannol enfawr i’r Llywodraeth, mae’n rhaid felly annog tua 50% o gartrefi Gwynedd sydd ddim yn cymryd rhan ar hyn o bryd:
1) i ddechrau gwneud defnydd llawn o’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff bwyd,
2) i roi’r gorau i daflu gwastraff y gellid ei ailgylchu neu gompostio yn y bin olwyn gwyrdd gweddilliol sydd yn cael ei gasglu bob pythefnos..
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Roberts: “Er mwyn annog mwy ohonom i wneud defnydd llawn o’r gwasanaeth bocs glas ailgylchu wythnosol a’r gwasanaeth bin brown gwastraff bwyd wythnosol, rydym yn ystyried newid y drefn ar gyfer casglu gwastraff domestig na all gael ei ailgylchu - y bin olwyn gwyrdd, neu 3 bag du - o’r casgliad bob pythefnos cyfredol i bob tair wythnos.
“Rydym eisiau clywed eich barn am y newid posib hwn ynghyd a ffyrdd eraill posib o annog mwy o drigolion Gwynedd i wneud defnydd llawn o’r gwasanaeth ailgylchu a chompostio wythnosol.”
Gallwch gymryd rhan drwy:
· gwblhau’r holiadur yr arolwg ar-lein yn www.gwynedd.gov.uk/ymgynghori
· cwblhau fersiwn papur o’r holiadur yn eich llyfrgell leol neu sïo un stop Siop Gwynedd
· ffonio 01766 771000 neu anfon e-bost i eichbarn@gwynedd.gov.uk i wneud cais i dderbyn copi caled o’r holiadur drwy’r post.
Mae’n rhaid cwblhau’r holl holiaduron erbyn 21 Chwefror 2014.