Mwy o Newyddion
Hwb i'r statws Dinas Chwaraeon gyda chyhoeddiad y pwll nofio
Mae statws Abertawe fel Dinas Chwaraeon wedi cael hwb sylweddol ar ôl i Bwll Cenedlaethol Cymru gael ei enwi'n Ganolfan Berfformio Genedlaethol Nofio Cymru.
Roedd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, yn croesawu'r penderfyniad hwn gan Nofio Cymru i fuddsoddi cannoedd ar filoedd o bunnoedd mewn meithrin doniau yn y pwll.
Meddai, "Mae hwn yn ddiwrnod arbennig i chwaraeon yn Abertawe ac i nofio'n arbennig. Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yw'r ganolfan hyfforddi sy'n perfformio orau yn y DU o ran nofio Paralympaidd ers blynyddoedd.
"Bydd penderfyniad Nofio Cymru i adeiladau ar y stori lwyddiant honno yn gwneud gwahaniaeth enfawr a bydd yn hwb mawr i'r pwll ac i Abertawe.
"Enillodd Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe fwy o fedalau nofio Paralympaidd yn 2012 nag unrhyw ganolfan hyfforddi arall yn y DU. Bydd y penderfyniad yn sicrhau ei dyfodol fel canolfan hyfforddi o'r radd flaenaf ar gyfer y cenedlaethau o nofwyr sydd i ddod."
Dathlodd Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe 10 mlynedd y llynedd gydag ymweliad gan y Dywysoges Frenhinol ac fe'i hariennir ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Er ei bod yn ganolfan hyfforddi ar gyfer athletwyr profiadol, mae hefyd yn bwll cymunedol ar gyfer pobl leol.
Meddai'r Cyng. Bradley, "Yr hyn sy'n wirioneddol gyffrous am y ganolfan berfformio newydd hon yw y bydd yn darganfod ac yn datblygu cenedlaethau'r dyfodol o nofwyr o'r safon orau i gystadlu dros Gymru a Phrydain Fawr bum a ddeng mlynedd yn y dyfodol.
"Gallai pobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gynradd neu uwchradd ar hyn o bryd fod yn sêr nofio'r dyfodol a bydd ganddynt gyfle i wireddu'r freuddwyd honno yma'n Abertawe.
"Fel dinas chwaraeon sydd eisoes yn gallu brolio llwyddiant mewn pêl-droed, rygbi, athletau, tenis bwrdd, bocsio a nofio i enwi ond ychydig, rwy'n gobeithio y bydd teitl newydd Pwll Cenedlaethol Cymru yn annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwneud yn fawr o'u doniau."
Denodd ymweliad y Ffagl Olympaidd yn 2012 60,000 o bobl i strydoedd Abertawe a soniodd timau Paralympaidd Seland Newydd a Mecsico am y croeso cynnes a gawsant gan y ddinas cyn y Gemau Paralympaidd.
Ar ben hynny i gyd, mae ymgyrch Byddwch yn Rhan Ohoni! Cyngor Abertawe wedi annog cannoedd o bobl leol i gymryd rhan mewn campau chwaraeon ac ymuno â chlybiau chwaraeon lleol ers 2012. Dros yr haf bydd y ddinas yn cynnal Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC, y ddinas Brydeinig gyntaf i wneud hynny.
Meddai'r Cyng. Bradley, "Mae hyn yn dangos bod Abertawe'n parhau i ddatblygu ei henw fel Dinas Chwaraeon y wlad, a hynny ar lefel gymunedol yn ogystal â lefel broffesiynol.