Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2014

Diwydiant twristiaeth Cymru'n llwyddo yn 2013

Dengys ffigurau o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr fod nifer yr ymweliadau dros nos â Chymru gan ymwelwyr o Brydain wedi cynyddu 8% yn ystod naw mis cyntaf 2013 a bod bron i 12% yn fwy wedi'i wario o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2012.

Mae'r canlyniadau, a gyhoeddir heddiw, yn dangos bod 2013 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i ddiwydiant twristiaeth Cymru, a bod y cynnydd yn y ffigurau ar gyfer Cymru, o'i gymharu â 2012, lawer yn uwch na'r cynnydd ar gyfer Prydain gyfan.

Mae'r ffigurau yn berthnasol i naw mis cyntaf 2013. Cafwyd 8.04 miliwn o ymweliadau â Chymru gan drigolion o Brydain, sy'n gynnydd o 7.8% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2012 (7.46 miliwn) a 5.4% yn uwch na'r ffigur yn 2011 (7.63 miliwn), a ystyriwyd ar y pryd yn dymor ardderchog ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.

Cynyddodd y gwariant a oedd ynghlwm wrth yr ymweliadau hyn 11.9% o'i gymharu â naw mis cyntaf 2012. Gwariodd ymwelwyr £1,415 miliwn yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Medi 2013.

O'i gymharu â'r ffigurau cyffredinol ar gyfer Prydain Fawr, roedd y ffigurau ar gyfer Cymru lawer yn uwch na'r cyfartaledd.   Cynyddodd nifer y tripiau i Gymru 7.8% ond ni wnaeth y ffigur ar gyfer Prydain Fawr gyfan newid. Cynyddodd y gwariant yng Nghymru 11.9%, tra cynyddodd y gwariant ym Mhrydain Fawr gyfan 1.1%.  

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Mae'r ffigurau hyn yn galonogol iawn i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Rydym wedi derbyn adborth gan y diwydiant yn nodi bod 2013 yn flwyddyn dda, ac yn arbennig yn ystod misoedd prysur yr haf.

"Mae canlyniadau Cymru ar gyfer mis Ionawr hyd fis Medi 2013 yn ddangosyddion da o berfformiad blynyddol gan eu bod yn cynnwys prysurdeb yr haf. Mae'r canlyniadau'n bositif iawn o safbwynt niferoedd absoliwt ac o safbwynt y ffaith bod perfformiad Cymru gryn dipyn yn well na pherfformiad Prydain Fawr gyfan. 

"Wrth gwrs roedd tywydd braf yr haf yn ffactor ond mae diwydiant twristiaeth Cymru'n sicr yn datblygu'n ddiwydiant cadarn a chydnerth ac mae'n rhan allweddol o'n heconomi.   Nod strategaeth twristiaeth Cymru yw cynyddu gwerth twristiaeth i economi Cymru 10% erbyn 2020.

"Mae'r gwaith o farchnata Cymru'n parhau a bydd ymgyrch hysbysebu newydd ar gyfer y DU ac Iwerddon, yn cynnwys hysbyseb deledu newydd, yn cael ei lansio ym mis Mawrth er mwyn ceisio denu ymwelwyr i Gymru yn ystod haf 2014."

Rhannu |