Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Ionawr 2014
Dr Carl Iwan Clowes

Rhybuddion ‘clir’ i Gymru o Siapan

NID yw ymweliad â Siapan, a Fukushima’n benodol yn gyrchfan amlwg i deithiwr yn sgil y gyfres o ffrwydradau yng ngorsaf niwclear Fukushima Daiichi ym Mawrth 2011. Yn erbyn cefndir yr hybu cyson gan y sefydliad gwleidyddol Prydeinig a Chymreig ar ddadeni i ynni niwclear, roedd hi’n bwysig i fynd i Siapan i ddeall effaith trychineb Fukushima’n llawn. Teithiais yno gyda fy mab Cian Ciarán, aelod o’r Super Furry Animals, ar ran mudiad PAWB, Pobl Atal Wylfa B. Bu Cian ar deithiau cerddorol sawl gwaith yno o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i mi deithio i Siapan.

Mae Siapan yn wlad o 127 miliwn o bobl. Hi yw’r drydedd economi gryfa’ yn y byd ac arweiniodd y byd mewn datblygiad technolegol. Sut oedd hi’n bosibl yn y fath gymdeithas ddatblygedig i ardaloedd mawr o ranbarth Fukushima droi’n ddiffaith wrth i bobl gael eu gorfodi i symud yn sgil y gollyngiadau ymbelydrol y tu hwnt i reolaeth o’r ffrwydradau yn Daiichi? 

Digwyddiad allweddol yn ystod yr ymweliad wythnos oedd cyfarfod â Katsunobu Sakurai,  Maer Dinas Minamisoma yn Rhanbarth Fukushima. Dyma’r ddinas a effeithiwyd waethaf gan yr ymbelydredd a chwythwyd i’r gogledd orllewin gan y prif wynt ar y pryd. Disgrifiodd y Maer sut y symudwyd canran fawr o’r boblogaeth o’r ardal. O’r 154,000 o bobl a orfodwyd i symud, aeth dau draean ohonynt i lety dros-dro mewn ardaloedd eraill o fewn y Rhanbarth, ond bu rhaid i 57,000 adael yr ardal am byth a chael llety mewn rhannau eraill o Siapan. Cafodd y mudo mawr hwn effaith negyddol iawn ar yr economi leol gyda sawl gwasanaeth yn troi’n anghynaladwy ac yn gorfod cau.

Disgrifiodd y Maer sut roedd yr ardal wedi cefnogi’r diwydiant niwclear fel modd o hybu cyflogaeth ac mai ychydig iawn o bobl fedrai siarad allan yn ei erbyn gan fod teulu a ffrindiau yn gweithio yn y diwydiant. Deja vu yn wir! Pan ofynnwyd y cwestiwn iddo sut ar sail ei brofiad y byddai’n ymateb i wleidyddion yng Nghymru sydd o blaid gorsafoedd niwclear newydd, roedd symlrwydd ei ateb yn bwerus: “Peidiwch, peidiwch, peidiwch! Nid yw unrhyw fudd tymor-byr o werth gan fod ein cymdeithas gyfan nawr wedi’i dinistrio.”

Daeth canlyniadau iechyd i bobl y rhanbarth yn eglur mewn cyfarfod â Dr Tomoyoshi Oikawa, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Ysbyty Cyffredinol Minasmisoma. Gydag wyth ysbyty yn yr ardal o gwmpas adweithyddion Daiichi, caewyd saith ar unwaith. Wynebai ysbyty Dr Oikawa gyda 260 o welyau her amhosibl. Oedd o’n gwagio’r ysbyty neu beidio?
Gyda llawer o gleifion oedrannus, penderfynodd ar y cychwyn i aros a chadw’r ysbyty’n agored. Dangosodd ddelwedd o’r hyn a gafodd i’w fwyta dros bedwar diwrnod.
Nid oedd ganddo fawr i’w gynnal, collodd 4 kg o bwysau a, heb unrhyw gyflenwadau – dim ocsigen hyd yn oed – yn medru cyrraedd yr ysbyty, fe’i gorfodwyd i wagio’r safle pan ymyrrodd y Weinyddiaeth.

Symudwyd cleifion i ddinas Fukushima a, fel yr ofnodd, bu farw 23 o bobl oedrannus yn y broses. Gadawodd gwytnwch Dr Oikawa argraff annileadwy iawn. Ymladdai i oroesi ei hun, yr ansicrwydd o beth ddigwyddai nesaf gyda lefelau ymbelydredd, yr angen i drin cleifion dan amodau anodd iawn ac, yn ychwanegol at hynny, ceisio rheoli’r ysbyty a’i ffawd! 

Camau Cyfreithiol
Mae goblygiadau cyfreithiol digwyddiadau Daiichi yn glir ymhob sgwrs yn Siapan. Tri chwmni oedd yn gyfrifol am y pedwar adweithydd a ddifrodwyd :

Adweithydd 1 – General Electric
Adweithydd 2 – General Electric a Toshiba
Adweithydd 3 – Toshiba
Adweithydd 4 – Hitachi

Cymerir camau cyfreithiol am ganlyniadau trychineb Daiichi o ddau gyfeiriad. Yn gyntaf, achos yn erbyn Tokyo Electric Power Company (TEPCO), darparwr y trydan yn yr ardal, dan arweiniad Mr Murata, cyn-newyddiadurwr gyda phapur Asahi Shimbun.

Roedd Mr Murata yn byw a gweithio ar dyddyn mewn ardal a gafodd ei gwagio rhyw 61km o adweithyddion Daiichi ac fe’i gorfodwyd i adael popeth. Mae’n byw yn awr yn Yokohama ac yn arwain cyd-achos yn erbyn TEPCO.

Yn ail, mae Atwrnai Cyfraith, Shima Akihiro yn arwain grŵp o ddau ar hugain o gyfreithwyr gyda’r nod tymor-hir o ddwyn achos yn erbyn General Electric, Toshiba a Hitachi. Mae’n credu y byddant yn cuddio tu ôl i ‘gyfraith gwarchodaeth’ ar y cychwyn, rhywbeth y bydd angen ei herio mewn Llys Cyfansoddiadol. Mae tîm Shima Akihiro hefyd yn cynnwys cyn-weithwyr technegol yn y diwydiant niwclear ac yn bwriadu denu cefnogaeth gan 10,000 o unigolion o wledydd amrywiol gan gynnwys Cymru er mwyn i’r cwmnïau gweithgynhyrchu yn y diwydiant niwclear ddeall maint y pryder am eu hoffer.

Fodd bynnag, nid negyddol oedd popeth!
Adroddodd Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Polisïau Ynni Adnewyddol (ISEP), Iida Tetsunari am ei daith o fod yn beiriannydd niwclear yn y diwydiant tan 15 mlynedd yn ôl pan flinodd ar bresenoldeb llunwyr polisi o fewn y llywodraeth a ddisgrifir ganddo fel “maffia niwclear” a oedd yn “graddol reoli polisi ynni.” Gyda chyllid o’r Almaen, llwyddodd i sefydlu’r ISEP ac arloesodd gyda’r prosiect ynni cymunedol cyntaf yn Siapan yn 2004. Bellach mae dros 30 ohonynt yn y wlad.  Mynegodd bryder am frwdfrydedd Gweinyddiaeth Datblygu Economaidd Siapan i gefnogi allforio technoleg niwclear i wledydd eraill fel India, Twrci ac wrth gwrs i Gymru. 

Sail y rhesymeg dros y datblygiadau hyn oedd eu methiant i ddatblygu gartref yn Siapan. Nid yw anfoesoldeb y symudiad hwn, i ddatblygu y tu allan i Siapan rhywbeth na fedrant ei ddatblygu gartref, yn ymddangos i dreiddio i’r meddylfryd llywodraethol neu gorfforaethol. Fodd bynnag, beirniadwyd polisïau cefnogol y Prif Weinidog Shinzo Abe o’r Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd i’r diwydiant niwclear gan bedwar cyn-Brif Weinidog.

Ni chafwyd gwell amser erioed i Siapan gefnu ar ynni niwclear ac ni chafodd neb amodau gwell i gyflawni’r dewis di-niwclear nac Abe. Dim ond dylanwad hollbresennol y diwydiant niwclear o fewn y llywodraeth sy’n atal y fath symudiad.

Mae trafodaeth iach yn Siapan a ralïau protest cyson. Cawsom y fraint o eistedd mewn seminar a drefnwyd gan Sayonara Nukes, mudiad ymbarél sy’n ymgyrchu dros Siapan ddi-niwclear. Gwelsom rali lle cyflwynwyd deiseb o dros 8 miliwn o enwau yn gwrthwynebu datblygiad niwclear i’r llywodraeth. 
Mae Greenpeace wedi prynu cyfranddaliadau yn Hitachi ac yn ymgyrchu o’r tu mewn i’r cwmni. Mae Cyfeillion y Ddaear yn gweithio gyda’r rhai a adawodd eu cartrefi ac wedi teithio Ewrop i dynnu sylw at eu sefyllfa druenus. Mae’n amlwg bod llawer yn cael ei wneud i atal trychineb tebyg arall mewn amryfal ffyrdd.

Dim ond un casgliad rhesymegol all fod i’n hymweliad. Mae Siapan yn deall canlyniadau trychineb niwclear a rhybuddiodd llywydd TEPCO Naomi Hirose hyd yn oed yn ddiweddar y gallai’r DU wynebu canlyniad tebyg, er o amgylchiadau gwahanol yn y dyfodol.
Ni allai’r rhybuddion i Gymru o Siapan fod yn gliriach:
? Dywed maer etholedig ardal sy’n dioddef yn Fukushima PEIDIWCH â datblygu ynni niwclear
? Mae gweithredu cyfreithiol byd-eang yn erbyn adweithyddion Hitachi yn yr arfaeth
? Mae allforio technoleg nad oes caniatâd iddo gartref yn anfoesol
Gobeithiwn fod gwleidyddion yma sy’n cymryd amser i feddwl ac, yn bwysicach, i ddysgu o brofiadau ein brodyr a chwiorydd yn Siapan.

Llun: Dr Carl Iwan Clowes a’i fab Cian efo Kazue Suzukio fudiad Greenpeace

Rhannu |