Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2014

Gwobrau Dewi Sant - penderfyniad y beirniaid

Mae'r beirniaid wedi gwneud eu penderfyniad, ac mae'r rhestr fer ar gyfer blwyddyn gyntaf Gwobrau Dewi Sant wedi'i llunio.

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn cyhoeddi'r rhestr fer mewn seremoni arbennig dan nawdd y cwmni cyfathrebu, Golley Slater, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar ddydd Iau, 16 Ionawr.

Cynllun unigryw i Gymru yw Gwobrau Dewi Sant. Mae'n cydnabod llwyddiannau pobl o bob cefndir a galwedigaeth, sydd wedi'u henwebu gan aelodau o'r cyhoedd.

Lluniwyd y rhestr fer gan banel o feirniaid annibynol a phrofiadol yn eu hamrywiol feysydd, sy'n cael eu henwi heddiw am y tro cyntaf.

Yn ymuno â chadeirydd y beirniaid, yr Arglwydd David Rowe Beddoe roedd 27 o feirniaid eraill,  gan gynnwys Prif Weithredwr yr Admiral Group, Henry Engelhardt CBE, pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hilary Boulding a Rheolwr Cyffredinol Undeb Rygbi Cymru ar gyfer Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru, Rupert Moon.

Cyn digwyddiad dydd Iau, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae Gwobrau Dewi Sant yn gyfle unigryw i ni ymfalchïo ym mhobl gyffredin Cymru, sy'n gwneud pethau eithriadol.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r panel o feirniaid am wneud y dasg anodd o ddewis rhestr fer allan o'r nifer fawr o geisiadau talentog a haeddiannol a ddaeth i law. Nawr rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi'r rhestr fer a chyfarfod yr unigolion hynny yn y digwyddiad dydd Iau."

Dywedodd Mike Leeson, Rheolwr Gyfarwyddwr hysbysebu gyda noddwyr y digwyddiad dydd Iau, Golley Slater: "Mae Gwobrau Dewi Sant yn garreg filltir bwysig arall yng Nghymru'r 21ain Ganrif.

"Cymru ddeinamig ac arloesol ac, yn ein barn ni, y wlad fwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig.

"Rydyn ni'n falch o fod yn fusnes sydd â'i hanes, ei bencadlys a'i ddyfodol yng Nghymru, a heddiw rydyn ni'n arbennig o falch o fod yn gysylltiedig â blwyddyn gyntaf Gwobrau Dewi Sant."

Mae wyth categori o wobrau:

·       Dewrder

·       Dinasyddiaeth

·       Diwylliant

·       Menter

·       Arloesedd a Thechnoleg

·       Chwaraeon

·       Rhyngwladol

·       Person ifanc

Hefyd mae nawfed gwobr, Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru. Nid oes modd enwebu pobl ar gyfer y wobr hon, a'r Prif Weinidog ei hun fydd yn dewis yr enillydd.

Bydd enw enillydd pob categori yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ar ddydd Iau 13 Mawrth.

Rhannu |