Mwy o Newyddion
Cyfrifoldeb gweithwyr iechyd i ymateb i anghenion iaith claf
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw ar weithwyr iechyd i sicrhau eu bod yn cydweithio er mwyn ateb anghenion iaith y claf a’r gymuned. Daw hyn yn sgil achos lle gwrthododd fferyllfa â rhoi meddyginiaeth i glaf oherwydd bod y presgripsiwn wedi ei ysgrifennu’n rhannol yn Gymraeg.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Rydym yn clywed o hyd bod y claf yn ganolbwynt i wasanaeth iechyd yng Nghymru ond mae’r achos hwn yn amlygu bod anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith yn parhau ar y cyrion ac yn cael eu diystyru.
“Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Er mwyn i’r statws hwn fod yn rhywbeth real sy’n golygu rhywbeth i’r dinesydd yng Nghymru rhaid i lywodraethau Cymru a Phrydain adolygu’r deddfau a’r mesurau sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ar frys.
“Yn yr achos hwn, mae’n ymddangos bod y meddyg teulu wedi ymateb yn gwbl briodol i anghenion ieithyddol y teulu. Mae’n achos sy’n amlygu pwysigrwydd sicrhau bod gweithwyr iechyd yn cydweithio er lles unrhyw glaf; a bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio er mwyn ateb anghenion ieithyddol yr unigolyn a’r gymuned.
“Mae’n gyfrifoldeb ar y gwasanaeth iechyd i ddod o hyd i atebion i unrhyw rwystrau ac nid i greu rhwystrau i gleifion.”