Mwy o Newyddion
Chwilio am wynebau newydd i ganu gyda Bryn Terfel
Mae’r gwaith wedi dechrau o chwilio am ganwr ifanc dawnus i berfformio gyda Bryn Terfel yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Y gobaith yw dod o hyd i fachgen ifanc i chwarae rhan Tobias Ragg yn sioe gerdd Sweeney Todd gan Stephen Sondheim, sef y sioe fydd yn agor yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf.
Cynhelir clyweliadau ym mis Chwefror yng Nghaerdydd ac yng nghartref yr Eisteddfod yn Llangollen lle bydd Cyfarwyddwr Cerddorol yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, hefyd yn chwilio am ddau wyneb newydd arall i ymuno â chast cwbl Gymreig yn y perfformiad ar ddydd Llun Gorffennaf 7.
Meddai: “Yn ogystal â Toby ifanc, rydym yn chwilio am ddau berson rhwng 18-25 oed i chwarae rhannau allweddol Anthony Hope a Johanna Baker, y ddau gariad ifanc yn y cynhyrchiad yma.
“Rhywle allan yn fan'a mae yna fachgen ifanc, sydd ddim yn gwybod hynny eto, ond a fydd mewn ychydig fisoedd yn canu ar y llwyfan gyda Bryn Terfel a hynny mewn pafiliwn llawn dop - profiad cyffrous dros ben.”
“Mae gyda ni gast llawn sêr o Gymru, sy’n cael eu harwain gan Bryn, a bellach rydym yn cynnal clyweliadau agored ar gyfer y tair rôl allweddol yma - mi wnaeth Star Wars hyn ac os oedd yn ddigon da i George Lucas, yna mae’n ddigon da i mi!”
Stori wedi’i selio yn Llundain yn y 19eg ganrif yw 'Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street' gan Sondheim, ac mae’n adrodd hanes y barbwr gwallgof sy’n llofruddio ei gwsmeriaid ac yn cyflenwi’r cyrff i’w gynorthwyydd, Mrs Lovett, dynes y siop pasteiod.
Cafodd sioe Sondheim, sydd wedi ennill llu o wobrau, ei pherfformio gyntaf ar Broadway yn 1979 ac ers hynny mae wedi ymddangos ar lwyfannau ar draws y byd ac ar y sgrîn fawr yn 2007 gyda’r seren ffilm enwog Johnny Depp yn chwarae rhan Todd a Helena Bonham Carter fel ei gyd-droseddwr.
Mae Bryn Terfel wedi chwarae'r rôl o'r blaen yn Chicago yn 2002 ond nid yw wedi canu’r rhan ers 2007, er y bydd yn arwain perfformiad o’r sioe gerdd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn y Lincoln Center, Efrog Newydd ym mis Mawrth.
Hwn fydd perfformiad cyntaf Bryn Terfel ar lwyfan yr Eisteddfod Ryngwladol ers iddo agor yr ŵyl yn 2006 a chyn hynny nid oedd wedi ymddangos yn Llangollen ers degawd.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd fy mod i’n gallu ymddangos yn Eisteddfod Ryngwladol 2014. Rwy’n Gymro balch ac mae'r Eisteddfod Ryngwladol yn unigryw – y lliwiau, y gynulleidfa, hyd yn oed y blodau, mae wir yn ddigwyddiad arbennig iawn.”
Yn ôl Eilir Owen Griffiths: “Mae'n wych cael Bryn yn ôl eleni a bydd cael bod ar y llwyfan gydag ef yn dipyn o brofiad i'r rhai fydd yn dod i'r clyweliadau.
“Rwy'n teimlo bod gan yr Eisteddfod ddyletswydd i annog talent ifanc yng Nghymru a dyma gyfle arbennig i gantorion ifanc sy’n dechrau ar eu gyrfa, cantorion efallai nad yw pobl wedi clywed dim amdanyn nhw, i serennu yn y cynhyrchiad yma. Rwy’n credu’n gryf mewn rhoi llwyfan i bobl ifanc a dyna oedd y rheswm i mi sefydlu Côr Plant y Byd y llynedd.
“Mae’n ddatblygiad cyffrous iawn ac mae'r gerddorfa ar gyfer y perfformiad, Sinfonia Cymru, hefyd yn gerddorfa ifanc iawn, dan arweiniad y maestro Gareth Jones.
“Mae angen i ni adael gwaddol ar ein hôl a rhoi cyfle i bobl ifanc ddisgleirio.”
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y clyweliadau yng Nghaerdydd a Llangollen ym mis Chwefror, gysylltu â swyddfa'r Eisteddfod trwy anfon e-bost at events@international-eisteddfod.co.uk i gael mwy o wybodaeth.
Bydd y cynhyrchiad o Sweeney Todd yn codi'r llen ar chwe diwrnod gwych yn Llangollen, sy’n cychwyn ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 8, gyda’r Orymdaith a llu o ddoniau rhyngwladol yng nghyngerdd Carnifal y Gwledydd.
Bydd y cyngerdd yn arddangos sgiliau syfrdanol perfformwyr syrcas o bedwar ban byd gan gynnwys Bruce Bilodeau o'r Cirque du Soleil, acrobatiaid o'r Chinese State Circus a Spellbound, enillwyr Britain's Got Talent.
Y noson ganlynol bydd Karl Jenkins, un o'r cyfansoddwyr clasurol mwyaf llwyddiannus sy'n fyw heddiw, yn dychwelyd i'r ŵyl gyda pherfformiad cyntaf ei gampwaith diweddaraf, Adiemus Colores.
Bydd yn arwain y gwaith sydd â thema o America-Ladin gyda'r tenor Americanaidd Noah Stewart, y trwmpedwr o Venezuela Pacho Flores a'r chwaraewraig acordion o Latfia Ksenija Sidovora i gyfeiliant Cerddorfa Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Bydd y gantores jazz o'r Iseldiroedd Caro Emerald, sydd wedi ennill llu o wobrau, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn Llangollen ar y nos Iau. Yn gynharach eleni aeth ei hail albwm stiwdio, The Shocking Miss Emerald, i Rif 1 yn siart albymau'r DU.
Bydd cyngerdd nos Wener, Spirit of Unity, yn cynnwys Cape Town Opera, prif gwmni opera Affrica, sy'n enwog am eu “lleisio soniarus a'u perfformiadau llwyfan grymus”.
Yn ymddangos gyda nhw bydd cynrychiolydd Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd, Gary Griffiths, Côr Only Kidz Aloud Canolfan Mileniwm Cymru gyda’r enwog Tim Rhys Evans yn eu harwain, a’r British Sinfonietta, un o brif gerddorfeydd proffesiynol annibynnol y DU.
Cystadleuaeth Côr y Byd ar nos Sadwrn yw digwyddiad rhuban glas yr ŵyl sy'n parhau drwy gydol yr wythnos ac mae'n dal i fod yn un o gystadlaethau côr mwyaf blaenllaw'r flwyddyn.
Bydd cystadleuaeth hefyd ar y nos Sadwrn er mwyn dod o hyd i bencampwyr dawnsio 2014 ac i orffen y noson bydd Richard ac Adam, ddaeth yn adnabyddus ar Britain's Got Talent, yn ymddangos fel gwesteion arbennig.
Yn codi'r to ar nos Sul fydd y grŵp roc chwedlonol Status Quo a ryddhaodd y gyntaf o’u 100 record sengl bron i 50 mlynedd yn ôl ac sy’n dal i ‘Rocio ar Draws y Byd’.
I archebu tocynnau ac i gael mwy o wybodaeth ar ŵyl 2014 ewch i'r wefan yn www.international-eisteddfod.co.uk