Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2014

Cadwch ganolfan gwylwyr y glannau Abertawe ar agor

Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru'n galw ar lywodraeth San Steffan i gadw canolfan gwylwyr y glannau Abertawe ar agor yn dilyn y stormydd gaeafol diweddar.

Dywed Dr Dai Lloyd, sy'n ymgeisydd y Cynulliad ar gyfer Gorllewin Abertawe, fod y tywydd garw yn dangos y peryglon gwirioneddol sydd bellach yn wynebu holl ardaloedd y glannau.

"Mae'n amlwg y gallwn ddisgwyl mwy o dywydd eithafol yn y dyfodol wrth i newid hinsawdd afael o ddifrif," meddai'r cyn-Aelod Cynulliad Dr Lloyd mewn llythyr i Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Gyfun, y Gwir Anrhydeddus Patrick McLoughlin.

"Byddai cau'r ganolfan wylio'r glannau yn y Mwmbwls yn cael gwared â gwasanaeth hanfodol sy'n helpu cynnig diogelwch ar hyd y glannau", meddai.

"Mae'r penderfyniad felly'n peryglu bywydau yn ardaloedd Abertawe a Gŵyr ac yn wir ar draws Môr Hafren i gyd.

"Mae'n glir nad yw llywodraeth San Steffan yn hidio dim am ddiogelwch y miloedd lawer o bobl sy'n defnyddio'n glannau ar gyfer busnes a phleser."

Yn ôl y cynlluniau, byddai canolfan Abertawe yn cau erbyn 31 Mawrth 2015, ynghyd â chanolfannau eraill yn Forth, Clyde yn yr Alban, a Great Yarmouth, Lerpwl, Tafwys, Brixham a Portland yn Lloegr. 

Rhannu |