Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2014

Uno Coleg Ceredigion gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ar y cyntaf o Ionawr 2014 unodd Coleg Ceredigion yn ffurfiol â Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant gan sicrhau dyfodol addysg bellach yng Ngheredigion a photensial ar gyfer creu llwybrau newydd cyffrous o addysg bellach i addysg uwch.

Mae'r uniad arloesol hwn wedi ei gwblhau o sefyllfa o gryfder mawr, gyda'r ddau sefydliad ar y blaen o ran datblygiadau mewn addysg ac ymchwil galwedigaethol ac academaidd, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a'r Iaith Gymraeg.

Mae'r uno’n symud ymlaen y strwythur grŵp addysgol arloesol sydd bellach yn ymgorffori addysg bellach ac addysg uwch yn yr hyn a elwir yn "Brifysgol Sector Ddeuol", yr unig un o'i fath yng Nghymru.

Dywedodd Pennaeth Coleg Ceredigion, Jacqui Weatherburn: "Rwy'n hynod falch o gael mynd â'r coleg ymlaen i uno â PCYDDS. Mae cyfleoedd aruthrol i ddod i ddysgwyr yng Ngheredigion, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

"O fewn y strwythur Grŵp, bydd Coleg Ceredigion yn parhau i gynnig ystod eang o gyrsiau addysg bellach o ansawdd uchel ar lefelau 1-4 ar draws ei ddau gampws yn Aberystwyth ac yn Aberteifi ac yn dechrau ymestyn rhai o'r cyfleoedd hynny i gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan.

"Caiff enw brand a hunaniaeth uchel eu parch y coleg eu cadw wrth iddo weithio yn y grŵp i greu rhaglenni addysg uwch newydd i'w cyflwyno yn Aberteifi ac Aberystwyth. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ni i gyd."

Crëwyd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ym mis Tachwedd 2010 drwy uno Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin. Ym mis Hydref 2012 unodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe hefyd â'r Brifysgol o dan ei Siarter Frenhinol 1828. Unodd Coleg Sir Gâr â'r grŵp ym mis Awst 2013.

Dywedodd Is-ganghellor Grŵp Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes: "Rwy'n falch iawn i groesawu Coleg Ceredigion i Grŵp PCYDDS.

"Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn creu system newydd radical o addysg ar gyfer Cymru a fydd yn trawsnewid, siapio a datblygu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

"Mae system PCYDDS yn cynnwys prifysgolion a cholegau wedi ymrwymo i addysgu myfyrwyr o bob oedran a chefndir ac ysgogi datblygiad economaidd yn y rhanbarth.

"Bydd buddion o'r fath yn cael eu cyflawni trwy ddarparu portffolio perthnasol o raglenni, datblygu llwybrau dilyniant o lefel mynediad i astudiaethau doethurol yn y rhanbarth, addysgu arloesol ac ymchwil, yn ogystal â datblygu partneriaethau strategol, yn enwedig gyda chyflogwyr."

Mae prif gampysau'r Brifysgol wedi eu lleoli yn Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerfyrddin. Yn ogystal, mae ganddo gampws yn Llundain sydd yn cyflwyno rhaglenni Busnes i fyfyrwyr rhyngwladol, ac Academi Llais Ryngwladol Cymru yng Nghaerdydd sy'n cynnig hyfforddiant arddull conservatoire i gantorion opera ifanc dan gyfarwyddyd y tenor byd-enwog, Dennis O'Neill.

Mae'r Brifysgol yn cynnig graddau israddedig, ôl-raddedig a graddau ymchwil gyda rhaglenni a gynigir ar ei champysau yn ogystal â thrwy ddysgu o bell a dysgu'n seiliedig ar waith.

Pennaeth Coleg Ceredigion Jacqui Weatherburn gyda’r Is-Ganghellor Grŵp y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes

Rhannu |